Harry Packer

Harry Packer
Dyddiad geni (1868-09-03)3 Medi 1868
Man geni Chipping Norton,Swydd Rydychen [1]
Dyddiad marw 25 Mai 1945(1945-05-25) (76 oed)
Lle marw Casnewydd,
Taldra 5' 11"
Pwysau 13 st.
Ysgol U. Devon County School
West Buckland School, Barnstaple
Gwaith Cyfanwerthwr bwydydd
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Prop
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
1886-1887
1888-1889
1889-1901
Casnewydd
Reading F.C.
Casnewydd
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1891–1897  Cymru 7 (0)

Roedd Harry Packer (9 Medi 1868 - 25 Mai 1946) yn brop undeb rygbi rhyngwladol a chwaraeodd rygbi clwb i Gasnewydd ac a gafodd ei gapio saith gwaith i Gymru. Roedd gan Packer gysylltiad hir â rygbi, fel chwaraewr, dewiswr, swyddog ac ym 1924 roedd yn rheolwr ar dîm teithiol Ynysoedd Prydain i Dde Affrica.

Cefndir

Ganwyd Packer yn Chipping Norton, Swydd Rhydychen yn fab i John Packer, teithiwr masnachol ac Ellen ei wraig. Symudodd y teulu o Rydychen i ymsefydlu yng Nghasnewydd pan oedd Harry tua 2 oed. Derbyniodd ei addysg mewn dwy ysgol breswyl yn Nyfnaint gan chwarae rygbi ar lefel bechgyn ysgol i Swydd Ddyfnaint ac Ysgol West Buckland.

Gyrfa rygbi

Ar ôl ymadael a'r ysgol daeth yn rhan o dîm Casnewydd gan chware i'r tîm yn nhymhorau 1886 a 1887. Yn 1887 symudodd gyda'i waith i Reading, Berkshire a bu'n chware am ddau dymor gyda thîm pêl-droed y gymdeithas yno.[2] Dychwelodd i dref a chlwb rygbi Casnewydd ym 1889. Dewiswyd ef i gynrychioli Cymru fel rhan o Bencampwriaeth y Pedair Gwlad 1891. O dan gapteiniaeth William Bowen, roedd Packer yn rhan o’r garfan a wynebodd Loegr yng Nghasnewydd yng ngêm agoriadol yr ymgyrch, ond ar ôl i Gymru golli, cafodd Packer ei ollwng o’r tîm. Byddai'n cymryd pedwar tymor i Packer gael ei ail-ddewis, pan gafodd ei ddewis ar gyfer ail a thrydedd gêm Pencampwriaeth 1895 y tro hwn dan arweiniad Arthur Gould. Collodd Cymru gêm yn erbyn yr Alban, ond profodd Packer ei fuddugoliaeth ryngwladol gyntaf yn y gêm yn erbyn Iwerddon ym Mharc yr Arfau Caerdydd.

Dewiswyd Packer ar gyfer holl gemau Pencampwriaeth 1896, ac roedd yn un o ddim ond tri chwaraewr o'r pac i'w cadw ar gyfer gêm yr Alban pan ddaeth y dewiswyr â phum cap newydd i mewn. Chwaraeodd Packer ei gêm ryngwladol olaf y flwyddyn olynol mewn buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Lloegr. Hon fyddai unig gêm y flwyddyn i Gymru ar ôl i'r tîm golli eu statws chwarae rhyngwladol oherwydd y Achos Gould

Yn ogystal â rygbi roedd Packer hefyd yn cystadlu'n frwd mewn rasys seiclo.[3]

Ym 1924 dewiswyd Packer i reoli tîm Prydain ar eu taith o amgylch De Affrica.

Gemau rhyngwladol

Cymru [4]

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau

  1. Newport player profiles Archifwyd 17 Mehefin 2011 yn y Peiriant Wayback
  2. "THE WELSH FIFTEEN - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1896-01-04. Cyrchwyd 2021-03-02.
  3. "CYCLE RACES - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1890-08-22. Cyrchwyd 2021-03-02.
  4. Smith (1980), tud. 470.

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!