Actores o Gymraes yw Hannah Daniel (ganwyd 20 Ionawr 1986)[1], sy'n adnabyddus am ei rhannau ar gyfresi teledu Y Gwyll ac Un Bore Mercher.
Bywyd cynnar ac addysg
Fe'i ganwyd yn Ysbyty'r Waun a'i magwyd yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Mae ganddi frawd hŷn Mathew a chwaer iau, Beca.[2] Ei thad oedd y darlledwr Emyr Daniel.[3]
Mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd ac fe astudiodd Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Prifysgol Llundain.[1]
Bywyd personol
Mae'n byw yn Llundain gyda'i phartner Richard Harrington. Ar ddiwedd 2019 ganwyd eu mab, Moris Emyr.[4]
Ffilmyddiaeth
Teledu
Blwyddyn |
Teitl |
Rhan |
Nodiadau
|
2005 |
Dad |
Millie James |
Ffilm deledu
|
2005 |
Casualty |
Dee Naseby |
Pennod: Baby Love
|
2008 |
Y Garej |
Cyd-gyflwynydd |
|
2010 |
Pen Talar |
Gail |
|
2011–2015 |
Gwaith Cartref |
Beca Matthews |
Prif ran
|
2015 |
Doctors |
Christina Evenden |
Pennod: Trust Me I’m a Doctor
|
2013–2016 |
Y Gwyll |
DS Siân Owen |
Prif ran; hefyd yn rhan o’r fersiwn Saesneg Hinterland.[5]
|
2017–presennol |
Un Bore Mercher |
Cerys Jones |
Prif ran; hefyd yn rhan o’r fersiwn Saesneg Keeping Faith.
|
2018 |
Holby City |
Leah Faulkner |
|
2018 |
The Tourist Trap |
Andi |
|
2018 |
Morfydd |
Beti Bwt |
|
2019 |
EastEnders |
DCI Morgan |
|
Ffilm
Blwyddyn |
Teitl |
Rhan |
Nodiadau
|
2014 |
Benny and Jolene |
Strictly Sherry |
|
2015 |
Black Mountain Poets |
Alys Wilding |
|
Cyfeiriadau
Dolenni allanol