Share to: share facebook share twitter share wa share telegram print page

Gwastadedd Gorllewin Siberia

Gwastadedd Gorllewin Siberia
Mathgwastatir, temperate coniferous forest, Russian Large Landscape Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Rwsia Rwsia
Cyfesurynnau62°N 76°E, 60°N 75°E Edit this on Wikidata
Map
Gwastadedd Gorllewin Siberia: golygfa o'r Rheilffordd Traws-Siberia.
Gwastadedd Gorllewin Siberia ar lun lloeren o Ogledd Asia.

Gwastadedd mawr yn Rwsia yw Gwastadedd Gorllewin Siberia (Rwseg: За́падно-Сиби́рская равни́на, Zapadno-Sibirskaya ravnina), sy'n gorwedd yng ngorllewin Siberia rhwng Mynyddoedd yr Wral yn y gorllewin ac Afon Yenisei yn y dwyrain, a rhwng Mynyddoedd Altai yn y de-ddwyrain ac arfordir Cefnfor yr Arctig yn y gogledd. Mae'r gwastadedd yn cynnwys rhai o'r corsydd a gwastadeddau gorlifo mwyaf yn y byd a hynny am fod cymaint o ddŵr yn aros ar wyneb y tir ar ôl glaw. Mae dinasoedd mawr y gwastadedd yn cynnwys Omsk, Novosibirsk a Chelyabinsk.

Daearyddiaeth

Mae'r gwastadedd yn cynnwys 975,000 milltir sgwar o dir. Mae llawer o'r tir yn y gogledd yn dir twndra, gyda choedwigoedd taiga a thir steppe agored yn y de. Isel yw'r tir hefyd ar y cyfan, gyda 50% yn gorwedd llai na 300 troedfedd uwch lefel y môr.[1] Mae'n ymestyn o'r gogledd i'r de am tua 1490 milltir (2,400 km) ac yn cynrychioli tua thraean o arwynebedd Siberia.

Y prif afonydd sy'n llifo dros Wastadedd Gorllewin Siberia yw Afon Ob, Afon Irtysh, ac Afon Yenisei. Ymhlith y corsydd niferus ceir Cors Vasyugan, a ystyrir y gors fwyaf yn hemisffer y Gogledd.

Yn weinyddol, mae Gwastadedd Gorllewin Siberia yn gorwedd yn ardal weinyddol Dosbarth Ffederal Siberia, gan gynnwys rhanbarthau Oblast Chelyabinsk, Oblast Omsk ac Oblast Novosibirsk.

I'r dwyrain o'r gwastadedd, tu draw i Afon Angara, ceir Llwyfandir Canol Siberia.

Hinsawdd

Mae'r gaeaf yn oer iawn yno; nodweddir y gwastadedd gan hinsawdd cyfandirol yn y de ac Arctig yn y gogledd.

Cyfeiriadau

  1. 'Russia', Encyclopædia Britannica.

Dolen allanol

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia

Kembali kehalaman sebelumnya