Mae gorsaf reilffordd Tref-y-clawdd (Saesneg: Knighton railway station) yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref farchnad Tref-y-clawdd, Powys, Cymru, er bod yr orsaf ei hun ar ochr arall y ffin yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr. Mae'r orsaf yn gorwedd ar Reilffordd Calon Cymru ac fe'i rheolir gan Trafnidiaeth Cymru.