Mae Gorsaf reilffordd Heol King yn orsaf reilffordd yn Seattle, Talaith Washington, yr Unol Daleithiau. Gwasanaethir yr orsaf gan drenau Amtrak (Cascades, Coast Starlight, ac Empire Builder), yn ogystal â threnau lleol Sounder. Mae hefyd tramffordd a rheilffordd ysgafn yno.[1]
Agorwyd yr orsaf ar 10fed Mai 1906. Dewiswyd yr orsaf gan Amtrak i fod eu gorsaf yn Seattle ym 1971. Dechreuodd trenau lleol Sounder yn 2000. Prynwyd yr orsaf gan gyngor y ddinas yn 2008 (yn talu $10 amdani) a gwarwyd $50 miliwn i atgyweirio’r orsaf.[2] Mae gan yr orsaf deg o draciau a 4 platfform.