Grŵp pop merched o'r Deyrnas Unedig ydy Girls Aloud. Crewyd y grŵp gan sioe dalent ITV1 Popstars: The Rivals yn 2002. Aelodau'r grŵp yw Cheryl Cole, Nadine Coyle, Nicola Roberts, Sarah Harding a Kimberly Walsh. Maent wedi rhyddhau 20 sengl ac mae pob un wedi mynd i restr y deg uchaf yn y siartiau, gan gynnwys pedair cân a aeth i rif un. Maent hefyd wedi cael dwy albwm a aeth i rif un y siart albymau a chawsant eu henwebu am bedwar Gwobr BRIT gan ennill yng nghategori'r seng orau yn 2009 am "The Promise". Mae eu caneuon eraill yn cynnwys Sound of the Underground, Jump, Love Machine, Something Kinda Ooooh a Biology.
Ystyrir Girls Aloud yn un o'r ychydig artistiaid o raglenni teledu realiti yn y Deyrnas Unedig sydd wedi parhau i fod yn llwyddiannus, gan ennill ffortiwn o £25 miliwn erbyn mis Mai 2009.[1] Yn eu llyfr yn 2007, dywed "Guinness World Records" mai nhw ydy "Most Successful Reality TV Group". Girls Aloud hefyd sydd a'r record am y "Most Consecutive Top Ten Entries in the UK by a Female Group" yn y llyfr yn 2008, gyda phymtheg cân ar ôl y llall yn mynd yn syth i'r deg uchaf yn y siart, o "Sound of the Underground" yn 2002 tan "Walk This Way" yn 2007.
Ym mis Chwefror 2009, cyhoeddwyd fod Girls Aloud wedi arwyddo cytundeb recordio newydd gyda Fascination sy'n golygu y bydd y grŵp yn rhyddhau tair albwm arall, gyda'r albwm nesaf yn cael ei rhyddhau yn Hydref 2010. Bwriada Girls Aloud ryddhau "Out of Control" yn Ewrop hefyd yn y dyfodol agos, gyda hysbyseb deledu cysylltiedig yn yr Almaen hefyd.
Disgograffiaeth
Albymau stiwdio
Albymau casgliadau o'u caneuon
Albymau wedi'u hail-gymysgu
Albymau byw
- 2008 – Girls A Live
- 2009 - Out of Control live at The O2 Arena London
|
DVDs
Blu-rays
2009 - Out of control: Live from the 02
|
Cyfeiriadau