Cheryl Cole |
---|
|
Ganwyd | Cheryl Ann Tweedy 30 Mehefin 1983 Newcastle upon Tyne |
---|
Man preswyl | Walker, Heaton, Woking |
---|
Label recordio | Fascination Records, Polydor Records |
---|
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
---|
Alma mater | - Royal Ballet School
|
---|
Galwedigaeth | canwr, cyflwynydd teledu, model, actor, diddanwr |
---|
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, pop dawns, cyfoes R&B |
---|
Math o lais | mezzo-soprano |
---|
Taldra | 1.6 metr |
---|
Priod | Ashley Cole, Jean-Bernard Fernandez-Versini |
---|
Partner | Liam Payne |
---|
Gwefan | https://www.cherylofficial.com/ |
---|
Cantores, cyfansoddwraig, dawnswraig, awdures, cynllunydd ffasiwn a phersonoliaeth teledu ydy Cheryl Ann Tweedy (ganed 30 Mehefin 1983). Daeth yn enwog yn ystod y 2000au wedi iddi ddod yn aelod o'r band Girls Aloud trwy'r rhaglen deledu realiti Popstars: The Rivals ar ITV. Daeth y band yn un o'r grwpiau teledu realiti prin i gael llwyddiant hir-dymor, gan ennill ffortiwn o £25 miliwn erbyn mis Mai 2009. Gyda Girls Aloud, cafodd Cheryl 20 sengl a aeth i'r deg uchaf yn y siart (gan gynnwys pedwar rhif un), dau albwm a aeth i rif un, pedwar enwebiad am Wobr BRIT, a achan ennill BRIT am y sengl orau yn 2009 gyda "The Promise".
Yn 2008, daeth Cheryl yn feirniad ar y sioe deledu realiti "The X Factor" yn y Deyrnas Unedig. Ystyryr Cheryl yn eicon ffasiwn, gan ymddangos ar gloriau Vogue ac Elle.
Bywyd personol
Gwnaeth Cheryl gychwyn fynd allan gyda pêl-droediwr Ashley Cole in September 2004, gan cyhoeddi eu dyweddïad yn Mehefin 2005.[1] Priododd y ddau mewn seremoni yn Barnet, Llundain ar 15 Gorffennaf 2006.[2] Cyhoeddwyd lluniau y briodas yng nghylchgrawn OK! mewn dêl egsliwsif a ddywedwyd ei fod yn werth dros £1 miliwn.[3] Ar 23 Chwefror 2010, cyhoeddodd Cheryl ei bod yn gwahanu oddi wrth Cole,[4][5] ac ar 26 Mai, gwnaeth gais am ysgariad yn nodi "ymddygiad afresymol" ei gŵr. Roedd y papur ysgaru yn dweud fod Cole wedi cyfaddef bod yn anffyddlon i Cheryl gyda sawl menyw arall.[6] Cafodd decree nisi ar 3 Medi.[7] Parhaodd Cheryl i ddefnyddio ei enw priod, ond yn ddiweddarach dechreuodd ddefnyddio yr enw unigol Cheryl ar gyfer ei cherddoriaeth.[8]
Ar 7 Gorffennaf 2014, priododd Cheryl married y perchennog bwytai Ffrengig Jean-Bernard Fernandez-Versini ar ôl carwriaeth tri mis.[9][10][11] Wedi iddyn nhw wahanu, dechreuodd Cheryl fynd allan gyda'r canwr Liam Payne yn gynnar yn 2016,[12][13] cyn derbyn ei decree nisi o Fernandez-Versini ar 20 Hydref 2016.[14] Ar 22 Mawrth 2017, rhoddodd enedigaeth i'w mab gyda Payne.[15][16][17] Yng Ngorffennaf 2018 cyhoeddodd Cheryl a Payne eu bod wedi gwahanu.[18]
Disgyddiaeth
- Albymau
- 3 Words (2009)
- Messy Little Raindrops (2010)
- A Million Lights (2012)
- Only Human (2014)
Cyfeiriadau