Gerontoleg yw'r astudiaeth o'r agweddau cymdeithasol, diwylliannol, seicolegol, gwybyddol, a biolegol ar heneiddio. Cafodd y gair ei fathu gan Ilya Ilyich Mechn
| Enghraifft o: | arbenigedd, disgyblaeth academaidd |
|---|---|
| Math | gwyddorau cymdeithas, gwyddorau clinigol |
| Dynodwyr | |

Gerontoleg yw'r astudiaeth o'r agweddau cymdeithasol, diwylliannol, seicolegol, gwybyddol, a biolegol ar heneiddio. Cafodd y gair ei fathu gan Ilya Ilyich Mechnikov yn 1903, o'r Groeg γέρων, geron, "hen ŵr" a -λογία, -logia, "astudiaeth o". [1] Mae'r maes yn wahanol i geriatreg, sef y gangen o feddygaeth sy'n arbenigo mewn trin clefydau mewn oedolion hŷn. Mae gerontolegwyr yn cynnwys ymchwilwyr ac ymarferwyr ym meysydd bioleg, nyrsio, meddygaeth, troseddeg, deintyddiaeth, gwaith cymdeithasol, therapi corfforol a galwedigaethol, seicoleg, seiciatreg, cymdeithaseg, economeg, gwyddoniaeth wleidyddol, pensaernïaeth, daearyddiaeth, fferylliaeth, iechyd y cyhoedd, tai, ac anthropoleg.[2]
Mae natur amlddisgyblaethol gerontoleg yn golygu bod nifer o is-feysydd sy'n gorgyffwrdd â gerontoleg. Mae yna faterion polisi, er enghraifft, yn ymwneud â chynllunio'r llywodraeth a chynnal cartrefi nyrsio, ymchwilio i effeithiau poblogaeth sy'n heneiddio ar gymdeithas, a dylunio mannau preswyl ar gyfer pobl hŷn sy'n hwyluso datblygu ymdeimlad o le neu gartref. Roedd Dr. Lawton, seicolegydd ymddygiadol yng Nghanolfan Geriatreg Philadelphia, ymhlith y cyntaf i gydnabod yr angen am fannau byw a gynlluniwyd ar gyfer yr henoed, yn enwedig y rhai â chlefyd Alzheimer. Fel disgyblaeth academaidd mae'r maes yn gymharol newydd. Creodd Ysgol Leonard Davis USC y rhaglenni PhD, meistr a baglor cyntaf mewn gerontoleg ym 1975.
Yn y byd Islamaidd canoloesol, ysgrifennodd nifer o feddygon ar faterion yn ymwneud â Gerontoleg. Roedd gan Y Canwn Meddygaeth gan Avicenna (1025) yn cynnig cyfarwyddyd ar gyfer gofalu am yr henoed, gan gynnwys deiet a meddyginiaethau ar gyfer problemau fel rhwymedd.[3] Ysgrifennodd y meddyg Arabeg Ibn Al-Jazzar Al-Qayrawani (Algizar, tua 898-980) ar boenau a chyflyrau'r henoed (Ammar 1998, t.4).[4] Mae ei waith ysgolheigaidd yn ymdrin ag anhwylderau cysgu, anghofrwydd, sut i gryfhau cof,[5][6] ac achosion marwolaeth.[7] Ysgrifennodd Ishaq ibn Hunayn (bu farw 910) hefyd waith ar y triniaethau ar gyfer anghofrwydd (Llyfrgell Meddygaeth Genedlaethol UDA, 1994).[8]
Er bod nifer y bobl oedrannus, a'r disgwyliad oes, wedi tueddu i gynyddu ym mhob canrif ers y 14g, roedd cymdeithas yn tueddu i ystyried gofalu am berthynas oedrannus fel mater teuluol. Nid tan i ddyfodiad y Chwyldro Diwydiannol y newidiodd syniadau o blaid system gofal cymdeithasol. Roedd rhai arloeswyr cynnar, fel Michel Eugène Chevreul, a wnaeth fyw ei hun tan yr oedd yn 102, yn credu y dylai heneiddio ei hun fod yn wyddoniaeth i'w hastudio. Bathodd Ilya Mechnikov y term "gerontoleg" o gwmpas y flwyddyn 1903.[9]
Dechreuodd arloeswyr modern fel James Birren drefnu gerontoleg fel maes ynddo ei hun yn y 1940au, gan gymryd rhan yn ddiweddarach yn y gwaith o ddechrau asiantaeth llywodraeth yr UD ar heneiddio – y Sefydliad Cenedlaethol ar Heneiddio[10] – rhaglenni gerontoleg ym Mhrifysgol De Califfornia a Phrifysgol Califfornia, Los Angeles, ac fel cyn-lywydd Cymdeithas Gerontoleg America (a sefydlwyd ym 1945).[11]
Gan fod disgwyl i boblogaeth pobl dros 60 oed fod tua 22% o boblogaeth y byd erbyn 2050, daeth y term gerowyddoniaeth i'r amlwg ar ddechrau'r 21g.[12][13][14]
Mae biogerontoleg yn is-faes o gerontoleg sy'n ymwneud â'r broses heneiddio fiolegol, ei tharddiad esblygol, a dulliau posibl o ymyrryd yn y broses. Mae'n cynnwys ymchwil ryngddisgyblaethol ar achosion, effeithiau, a mecanweithiau heneiddio biolegol. Mae biogerontolegwyr ceidwadol fel Leonard Hayflick wedi rhagweld y bydd y disgwyliad oes dynol yn cyrraedd tua 92 mlwydd oed,[15] tra bod eraill fel James Vaupel wedi rhagweld y bydd disgwyliad oes mewn gwledydd diwydiannol yn cyrraedd 100 ar gyfer plant a anwyd ar ôl y flwyddyn 2000.[16] ac mae rhai biogerontolegwyr a holwyd wedi rhagweld disgwyliad oes o ddwy ganrif neu fwy.[17] Mae Aubrey de Grey wedi cynnig yr "amserlen betrus" y byddai cyllid digonol i ymchwil i ddatblygu ymyraethau mewn heneiddio yn rhoi siawns 50/50 y bydd technolwg wedi'i datblygu mewn 25-30 mlynedd a fydd yn ein glluogi i atal pobl rhag marw o unrhyw oedran.[18]
Mae yna nifer o ddamcaniaethau i esbonio heneiddio, ac nid oes yr un ohonynt wedi'i derbyn hyd yma. Mae sbectrwm eang o'r mathau o ddamcaniaethau ar gyfer achosion heneiddio, o ddamcaniaethau rhaglennu i ddamcaniaethau gwall. Waeth beth yw'r ddamcaniaeth, un peth cyffredin yw bod swyddogaethau'r corff yn dirywio wrth i bobl heneiddio.[19]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.