Geraint Stanley Jones |
---|
Ganwyd | 26 Ebrill 1936 Pontypridd |
---|
Bu farw | 25 Awst 2015 |
---|
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
---|
Galwedigaeth | aelod o fwrdd, cynhyrchydd teledu |
---|
Swydd | prif weithredwr |
---|
Cyflogwr | |
---|
Gwobr/au | CBE |
---|
Darlledwr o Gymro oedd Geraint Stanley Jones, CBE (26 Ebrill 1936 – 25 Awst 2015). Rhwng 1981 a 1989, roedd Jones yn Reolwr BBC Cymru, lle bu'n goruchwylio lansio sianel deledu Gymraeg S4C yn 1982. Bu Jones hefyd yn gwasanaethu fel prif weithredwr S4C rhwng 1989 a 1994.[1][2]
Wedi astudio ym Mhrifysgol Bangor cychwynodd Jones ei yrfa ddarlledu yn 1960 fel rheolwr stiwdio deledu ar gyfer BBC Cymru. Cafodd ei ddyrchafu i fod yn gynhyrchydd teledu gan weithio ar y rhaglen gylchgrawn Heddiw. Gweithiodd ar raglenni nodwedd a dogfen cyn cael ei benodi fel Dirprwy Pennaeth Rhaglenni BBC Cymru yn 1974 a Pennaeth Rhaglenni BBC Cymru yn 1974. Bu'n gyfrifol am oruwchwylio sawl cyfres deledu nodedig yn ystod ei gyfnod gan gynnwys Ryan a Ronnie, The Life and Times of David Lloyd George (1981), a Grand Slam. Cefnogodd Pobol y Cwm, yr opera sebon Cymraeg hirhoedlog, a gychwynnodd ddarlledu ar BBC Cymru ym mis Hydref 1974 (ac yna ei drosglwyddo i S4C ym 1982 ar greadigaeth y sianel). Bu hefyd yn goruchwylio lansio BBC Radio Cymru ym 1977 a BBC Radio Wales yn 1978.
Yn 1981, gadawodd Rheolwr BBC Cymru, Owen Edwards, ei swydd i weithio ar lansiad y darlledwr cyhoeddus Cymraeg newydd, S4C a'i olynydd oedd Geraint Stanley Jones. Fe wnaeth Jones helpu i sefydlu S4C, gan ddechrau cyfnod newydd cyffrous ym myd teledu Cymraeg.
Goruchwyliodd Jones y gwaith o greu cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd, a gychwynodd yn 1983, yn ystod ei gyfnod fel Rheolwr BBC Cymru.
Yn ddiweddarach daeth Jones yn brif weithredwr S4C rhwng 1989 a 1994. Cafodd ei enwi yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) am ei wasanaeth i ddarlledu, yn enwedig am deledu a radio yn yr iaith Gymraeg, yn 1993. Ymddeolodd o S4C ym 1994.
Yn ogystal, gwasanaethodd Jones fel aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru, ac fel is-lywydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bu hefyd yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr ar gyfer nifer o sefydliadau, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, canolfan gelfyddydau yng Nghaerdydd, ac Opera Cenedlaethol Cymru.
Bu farw ar 25 Awst 2015 yn 79 oed.[3]
Cyfeiriadau