Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1962 oedd y seithfed tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Perth, Gorllewin Awstralia, Awstralia oedd cartref y Gemau rhwng 22 Tachwedd – 1 Rhagfyr.
Dyma oedd ymddangosiadau olaf Sarawak a Malaya gan iddynt gystadlu o dan faner Maleisia o Gemau 1966 ymlaen.
Cafwyd 34 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad, 1962 gyda Aden, Hondwras Brydeinig, Papua Gini Newydd, Sant Lwsia a Tanganyika yn ymddangos am y tro cyntaf.
Roedd 45 aelod yn nhîm Cymru.