Gary Stevenson

Mae Gary Stevenson (ganwyd 1986) yn YouTuber ac yn gyn-fasnachwr ariannol sy'n adnabyddus am ei sylwebaeth economaidd ac am ymgyrchu yn erbyn anghydraddoldeb ec

Gary Stevenson
Gary Stevenson
Gary Stevenson yn 2024
AddysgIlford County High School Valentines High School
Alma mater
Adnabyddus amYmgyrchu economaidd
Gwefanhttps://www.youtube.com/@garyseconomics
Gwybodaeth YouTube
Sianel
Blynyddoedd gweithredu2020–presennol
Tanysgrifwyr1.16 million[1]
Nifer o weliadau101.74 million[1]

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2025

Mae Gary Stevenson (ganwyd 1986) yn YouTuber ac yn gyn-fasnachwr ariannol sy'n adnabyddus am ei sylwebaeth economaidd ac am ymgyrchu yn erbyn anghydraddoldeb economaidd.[2]

Cafodd Stevenson ei eni yn Ilford. Astudiodd economeg a mathemateg yn y London School of Economics, cyn dod yn fasnachwr ariannol yn Citibank yn 2008 yn ddim ond yn 21 oed. Daeth Stevenson yn filiwnydd yn sgil y dirwasgiad mawr, 2008 trwy fetio ar gynnydd mawr mewn anghydraddoldeb economaidd, a byddai tlodi cynyddol yn achosi i gyfraddau llog aros yn isel. [3]

Mae Stevenson yn dweud mai ef oedd masnachwr mwyaf proffidiol Citibank yn fyd-eang yn 2011, [4] rhywbeth mae rhai o'i gyn gydweithwyr yn ei wadu.[5] Yn 2014, ymddeolodd Stevenson o fasnachu ariannol er mwyn astudio ar gyfer MPhil mewn Economeg ym Mhrifysgol Rhydychen. Yn 2020, dechreuodd sianel GarysEconomics ar YouTube, lle mae'n esbonio syniadau economaidd i gynulleidfa ehangach ac yn siarad yn erbyn anghydraddoldeb economaidd. [6]

Mae Stevenson yn cyfrannu at ddadleuon polisi ar anghydraddoldeb, ac mae wedi cyfrannu at The Guardian, BBC, LBC, Novara Media, a Piers Morgan Uncensored . Yn 2024, cyhoeddodd Stevenson y llyfr The Trading Game drwy Penguin Books, cofiant am ei flynyddoedd yn gweithio yn y diwydiant ariannol.

Bywyd cynnar

Roedd tad Stevenson yn weithiwr swyddfa bost yn Ilford. Roedd yn blentyn canol i dri o frodyr a chwiorydd. Gweithiodd fel bachgen rownd-bapur. Aeth i Ysgol Uwchradd y Sir Ilford tan 2003 pan gafodd ei ddiarddel yn 16 oed oherwydd “trosedd yn ymwneud â chyffuriau”. Yna cwblhaodd ei Lefel A mewn ysgol arall, ble enillodd bedair gradd A. [7]

Yn 2005, aeth i Ysgol Economeg Llundain gan astudio mathemateg ac economeg. Yn ddiweddarach ysgrifennodd yn ei gofiant fod ei brofiad prifysgol wedi arwain ato'n dod i'r casgliad bod "llawer o bobl gyfoethog yn disgwyl i bobl dlawd fod yn dwp". Tra yn y brifysgol gweithiodd mewn siop dodrefn DFS, gan ennill £40 y dydd. [8]

Gyrfa

Masnachwr cyfradd llog

Dechreuodd Stevenson ei yrfa fel masnachwr cyfradd llog yn 2008 yn 21 oed ar ôl ennill "gêm gardiau" o'r enw "The Traiding Game" yn seiliedig ar brynu a gwerthu stoc,[9] cael ei gyflogi i ddechrau gan Citibank fel intern, ac yna fel gweithiwr llawn. Manteisiodd ar argyfwng ariannol 2007–2008, gan dderbyn ei fonws cyntaf yn gynnar yn 2009 o £13,000, ac enillodd ychydig o dan £400,000 yn ei flwyddyn gyntaf, ac yna ei filiwn o bunnoedd cyntaf erbyn 2010. Fe fetiodd hefyd ar argyfwng dyled llywodraeth Gwlad Groeg yn 2011. [10]

Ers hynny mae Stevenson wedi dweud iddo ddod yn “fasnachwr mwyaf proffidiol Citibank, yn y byd i gyd” yn 2011 gydag elw brig o $35 miliwn i’r banc y flwyddyn honno. Dywed Stevenson iddo gynhyrchu'r elw hwn trwy fasnachu yn seiliedig ar ddyfalu na fyddai cyfraddau llog yn codi oherwydd effaith anghydraddoldeb cyfoeth. Credodd fod pobl gyfoethog yn tueddu i gynilo eu harian yn hytrach na'i wario, gan fuddsoddi mewn eiddo.[11] Fodd bynnag, roedd wyth o'i gyn-gydweithwyr Citibank yn anghytuno â'i honiad o fod y "masnachwr mwyaf proffidiol" mewn erthygl yn 2024 yn y Financial Times . Mae ei gyn-gydweithwyr wedi dweud nad oedd unrhyw ffordd gallai Stevenson fod wedi gwybod yn bendant ble roedd yn graddio o ran proffidioldeb masnachwr yn Citibank gan nad oedd erioed unrhyw restr swyddogol fyd-eang.

Ar ôl cael llond bol gyda'i fywyd ar y pryd, symudwyd Stevenson gan Citibank i swydd yn Tokyo. Tra yno dwedodd iddo geisio gadael Citibank drwy “gymal elusen” yn ei gytundeb gwaith lle byddai’n cael gadael y banc i weithio i fudiad elusennol am flwyddyn, ond cafodd ei gais ei wrthod. Mae un o'i gydweithwyr wedi dweud roedd y "cymal elusen" wedi dod i'w ben erbyn i Stevenson geisio ei ddefnyddio. Dywed Stevenson wedyn iddo gael ei adael i ffwrdd o’i waith am chwe mis gan feddyg, gan weithio wedyn mewn swydd weinyddol yn y banc am flwyddyn, cyn iddo gael gadael y banc gyda’i stoc ohiriedig o tua £1.5 miliwn i £2 filiwn. [12] Ymddeolodd Stevenson o fasnachu yn 2014 pan oedd yn 27, ar ôl gorflino.

Ymgyrchu

Cofrestrodd Stevenson yng Ngholeg Keble, Rhydychen i astudio am Feistr Athroniaeth mewn economeg, [13] gan ysgrifennu traethawd ymchwil o'r enw "The Impact of Inequality on Asset Prices When Households Care About Wealth" Dywedodd roedd yn teimlo'n "isel a dadrithiedig" gyda'r addysg yr oedd yn ei dderbyn, ac yn flin "nad yw newid yn mynd i ddod o'r fan honno,"

Pan ddechreuodd pandemig COVID-19, rhagwelodd y cynnydd mewn prisiau tai ac yng nghost siopa, a byddai anghydraddoldeb yn cynyddu. Ymunodd â’r Patriotic Millionaires a Millionaires for Humanity i ymgyrchu dros dreth cyfoeth, a sefydlodd y sianel YouTube GarysEconomics gyda’r gobaith o egluro economeg i’r cyhoedd. Yn 2021, fe arwyddodd lythyr agored at Ganghellor Llywodraeth Llundain, Rishi Sunak ochr yn ochr â 29 miliwnydd arall, yn galw am dreth gyfoeth gan ddweud “yn lle codi yswiriant gwladol a chymryd £1,000 y flwyddyn oddi wrth deuluoedd ar gredyd cynhwysol, dylai’r canghellor, sy’n filiynydd, fod yn trethu ei hun a phobl fel fi – pobl â chyfoeth.” [14]

Yn 2022, ymddangosodd Stevenson yn rhaglen ddogfen Channel 4 Cryptocurrency: Has the Bubble Burst? [15] Yn 2023, ymddangosodd yn ffilm fer Steffan Roe Griffiths, Gary Stevenson – Life Out of Balance, ac ymddangosodd ar BBC Politics Live.

Ysgrifennodd gofiant, The Trading Game, a enwyd ar ôl y gêm o gardiau enillodd i ddod yn intern gyda Citibank. [16] Fe'i prynwyd gan Penguin Books mewn cytundeb chwe ffigur, [17] a'i ryddhau ym mis Mawrth 2024 gan fynd i siart y llyfrau mwyaf poblogaidd fel "Sunday Times No1 Best Seller".[18]

Llyfrau

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "About Garys Economics". YouTube.
  2. Neate, Rupert; @RupertNeate (2022-07-02). "Gary Stevenson, City trader turned campaigner: 'I made money betting on a disaster'". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-04-16.
  3. Chakelian, Anoosh (2021-11-17). ""Capitalism's over": The man who made millions by betting the economy would never recover". New Statesman (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-16.
  4. Stevenson, Gary (2020-05-07). "I made millions out of the last debt crisis. Now the wealthy stand to win again". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-04-16.
  5. Smith, Robert (12 Medi 2024). "Gary Stevenson claims to have been the best trader in the world. His old colleagues disagree". Financial Times.
  6. Butcher, Sarah (2024-02-21). "Citigroup's pro-tax trading prodigy: "I was the best f**king trader in the world"". eFinancialCareers (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-08-15. Cyrchwyd 2025-01-26.
  7. Paul Clarke (2021-12-17). "Meet the junior trader turned economist who's convinced a recession is coming". eFinancialCareers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-06-03. Cyrchwyd 2024-06-01.
  8. Luyendijk, Joris (2024-02-22). "The Trading Game by Gary Stevenson review – cashing out". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-02-23.
  9. "Commentary: I got rich by betting that inequality would destroy the U.S. and U.K. I'm sorry". Fortune (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-16.
  10. Neate, Rupert (2021-04-03). "'Raise my taxes – now!': the millionaires who want to give it all away". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-04-16.
  11. Jones, Owen (2022-01-13). "As things fall apart, the super-rich spend $2m on whisky. We need a wealth tax". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-04-16.
  12. Smith, Robert (12 Medi 2024). "Gary Stevenson claims to have been the best trader in the world. His old colleagues disagree". Financial Times.
  13. Neate, Rupert; @RupertNeate (2022-07-02). "Gary Stevenson, City trader turned campaigner: 'I made money betting on a disaster'". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-03-13.
  14. Neate, Rupert (2021-10-24). "Millionaires petition Rishi Sunak to introduce wealth tax". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-04-16.
  15. Hogan, Michael (2022-08-09). "Cryptocurrency: Has the Bubble Burst? review: a disappointing and dumbed-down crash course". The Telegraph (yn Saesneg). ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2023-04-16.
  16. Stevenson, Gary (2024-02-02). "I was the City's youngest and highest earning trader – but it nearly killed me". The Daily Telegraph (yn Saesneg). ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2024-02-12.
  17. "Allen Lane lands 'gripping' memoir by ex-trader Stevenson in 12-way auction for six figures". The Bookseller (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-16.
  18. "The Trading Game". The Times Bookshop (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-04-15.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.