Ffederaliaeth (o'r Lladinfoedus, "cyd-glymedig"), yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio system o lywodraeth lle mae sofraniaeth yn cael ei rhannu yn gyfansoddiadol rhwng y llywodraeth ganolog a'r unedau llai, a allai gael ei galw'n daleithiau neu ranbarthau. Mae'n wahanol i ddatganoli, lle nad oes sail gyfansoddiadol i'r rhannu grym, a'r sofraniaeth yn llwyr yn nwylo'r llywodraeth ganolog.