Llychlynwyr, yn bennaf o Sweden, a ymsefydlodd, masnachodd, a brwydrodd yn Nwyrain Ewrop o'r 9g i'r 11g oedd y Farangiaid. Teithiasant o arfordir y Môr Baltig, dros y tir ac ar hyd yr afonydd tua'r de i'r Môr Du a'r Ymerodraeth Fysantaidd. Daw enw'r Farangiaid o'r ffurf Ladin ganoloesol Varangus, o'r Hen Norseg Væringjar, sef "dynion a chleddyfau ganddynt", sydd yn tarddu yn y bôn o vár, "gwystl" neu "llw" mae'n debyg. Rhoesant eu henw i warchodlu personol yr Ymerawdwr Bysantaidd, y Gwarchodlu Farangaidd. Mae'n debyg taw Farangiaid oedd y Rws, y llwyth a sefydlodd Rws Kyiv yn y 9g.
Ers mordeithiau cynharaf y bobloedd Germanaidd yng Ngogledd Ewrop, fe'u atynnwyd i'r dwyrain wrth chwilio am grwyn anifeiliaid i wneud dillad, yn ogystal â chaethweision. Daeth y mwyafrif ohonynt o dde-ddwyrain gorynys Llychlyn—taleithiau Uppland ac Östergötland yn Sweden gyfoes—ac o ynys Gotland yn y Môr Baltig. Gelwid rhanbarth Uppland ac Östergötland yn yr oesoedd hynny gan yr enw Hen Norseg Roþer neu Roþin, a gelwid y trigolion yn Róðskarlar neu Róðsmen. Sefydlwyd gwladfeydd ar lannau dwyreiniol y Môr Baltig gan y masnachwyr Llychlynnaidd, a chyfeiriasant at ogledd Rwsia fel Sviþjóð en mikla (Sweden Fawr) a chanolbarth Rwsia fel Sviþjóð en kalda (Sweden Oer). Mae'n debyg i'r bobloedd Slafonig fenthyg eu henw nhw ar y gwladychwyr hyn—y Rws (Rus)—o enw'r Ffiniaid arnynt, sydd yn ei dro yn tarddu o Róðskarlar neu Róðsmen; o'r Hen Slafoneg, daw'r ffurfiau Rhos yn yr iaith Roeg Canol a Rûs yn Arabeg.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Sigfús Blöndal a Benedikt S. Benedikz, The Varangians of Byzantium (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1978), t. 1.