Ym mytholeg Roeg, roedd Endymion (Hen Roeg: Ἐνδυμίων) yn fugail neu heliwr o Aeolia, neu yn ôl Pausanias yn frenin oedd yn teyrnasu yn Olympia yn Eli
| Enghraifft o: | cymeriad chwedlonol Groeg |
|---|---|
| Enw brodorol | Ἐνδυμίων |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0376z2 |

Ym mytholeg Roeg, roedd Endymion (Hen Roeg: Ἐνδυμίων) yn fugail neu heliwr o Aeolia, neu yn ôl Pausanias yn frenin oedd yn teyrnasu yn Olympia yn Elis. Dywedid ei fod yn fab i Zews a'r nymff Calyce. Ganed ef yn Thessalia ond daeth yn arweinydd carfan o Aeoliaid, a sefydlodd Elis.
Oherwydd ei harddwch, syrthiodd Selene, duwies y lleuad, mewn cariad ag ef. Dywedir iddi ofyn i Zews roi ieuenctid tragwyddol iddo. Mewn fersiwn arall, roedd Endymion yn edrych mor hardd wrth gysgu mewn ogof ar fynydd Latmos, ger Miletus yn Caria, nes i Selene ofyn i Zews a allai aros felly. Bob nos, byddai Selene'n ymweld ag ef wrth iddo gysgu.
Dywedir iddo gael mab, Aetolus, a ddaeth yn frenin Elis, ac yn ddiweddarach yn frenin Aetolia, a enwyd ar ei ôl.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.