Mam y brenin Arthur yn ôl traddodiad oedd Eigr (Lladin: Igerna, hen Ffrangeg Igerne, yn ddiweddarach Ygraine, Saesneg: Igraine). Yn y chwedl fel y'i hadroddir
Mam y brenin Arthur yn ôl traddodiad oedd Eigr (Lladin: Igerna, hen Ffrangeg Igerne, yn ddiweddarach Ygraine, Saesneg: Igraine). Yn y chwedl fel y'i hadroddir gan Sieffre o Fynwy yn yr Historia Regum Britanniae, mae'n wraig i Gorlois, Dug Cernyw.
Syrth Uthr Bendragon, brenin Ynys Brydain, mewn cariad ag Eigr mewn gwledd i ddathlu buddugoliaeth. Caiff gymorth y dewin Myrddin, sy'n newid ffurf Uthr fel bod Eigr yn meddwl mai ei gŵr ydyw. Mae Uthr yn cysgu gydag Eigr yng Nghastell Tintagel, a chenhedlir Arthur. Lleddir Gorlois yr un noson, ac mae Uthr yn priodi Eigr. Yn nes ymlaen, gwenwynir Uthr, ac mae Arthur yn ei ddilyn ar yr orsedd.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.