Ganwyd Butler yng Nghasnewydd yn fab i Kenneth Butler a Margaret (née Asplen) roedd ei dad yn gweithio fel ymchwilydd i gwmni ICI fibres.[2] Addysgwyd ef yn Ysgol Trefynwy a Choleg Fitzwilliam, Caergrawnt lle enillodd radd BA mewn ieithoedd modern ym 1979.[3] Yn 2009 priododd Susan Roberts ac mae ganddynt dair merch a thri mab.[1]
Gyrfa rygbi
Chwaraeodd Butler fel rhif wyth yn nhîm gleision Prifysgol Caergrawnt ym 1976, 1977 a 1978.[4] Bu'n chware i dîm rygbi Pont-y-pŵl rhwng 1979 a 1985 gan ddod yn gapten ar y tîm rhwng 1982 a 1985. Chwaraeodd 16 gêm dros dîm Cenedlaethol Cymru gan chware ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn Ffrainc ym 1980 yng Nghaerdydd. Bu Cymru yn fuddugol o 18 bwynt i 9. Chwaraeodd ei gêm ryngwladol olaf yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd ym 1984, collodd Cymru o 28 pwynt i 9. Yn ystod ei yrfa ryngwladol sgoriodd 8 bwynt trwy ddau gais dros ei wlad. Roedd yn gapten ar dîm Cymru ar chwe achlysur.[5] Ym 1983 roedd yn rhan o'r sgwad ar daith y Llewod i Seland Newydd, er na chafodd ei ddewis i chware mewn gêm brawf, bu hefyd yn chwaree i'r Barbariaid.
Wedi ymddeol o'r gêm mae Butler wedi gweithio fel awdur a darlledwr. Dechreuodd sylwebu ar gemau rygbi i adran chwaraeon y BBC ym 1985. Rhwng 1995 a 2006 bu'n cyflwynydd rheolaidd ar raglen rygbi BBC CymruScrum V. Yn 2006 bu'n holi Gareth Thomas am y rheswm pam bu i reolwr Cymru, Mike Ruddock, ymadael a'i swydd. Wrth wylio'r rhaglen yn ôl trawyd Thomas yn wael a bu'n rhaid iddo gael ei ddanfon i'r ysbyty ar frys.[6] Achosodd y cyfweliad anghydfod rhwng y BBC ac Undeb Rygbi Cymru a bu rhai'n honni mae dyna pam cafodd Butler ei ollwng o'r sioe.[7] Er iddo gael ei ollwng fel cyflwynydd Scrum V, bu'n dal i ymddangos ar y rhaglen yn achlysurol. Roedd yn sylwebu ar gemau'r chwe gwlad a gemau rhyngwladol eraill, yn aml gyda Brian Moore hyd 2018. Yn 2019 symudodd i gwmni darlledu Premier Sports fel sylwebydd ar gyfer gemau'r Pro 14.[8]
Wrth baratoi i sylwebu nid yw Butler yn ysgrifennu llawer o nodiadau o flaen llaw, yn hytrach bydd yn ceisio amsugno cymaint o wybodaeth ag y gallai "fel disgybl yn cramio cyn arholiad".[9]
Tu allan i fyd y campau mae Butler wedi cyflwyno rhaglenni ar hanes hefyd Megis Wales and the History of the World (BBC1 Cymru) [10], Hidden Histories (BBC2), Welsh Towns at War (BBC1) [11] a dwy gyfres o Welsh Towns (BBC2 Cymru) yn 2015. Yn 2016 cyflwynodd raglen fywgraffyddol am Muhammad Ali ac yn 2018 ymddangosodd ar y cwis Celebrity Mastermind yn ateb cwestiynau arbenigol ar Ryfel Cartref Sbaen.[12]
Ysgrifennu
Rhwng 1991 a 1996 bu Butler yn brif ohebydd rygbi ar gyfer papurau The Observer a The Guardian[13]. Disgrifiodd ei arddull fel ysgrifennu adroddiad gêm, yn aml o dan bwysau amser, gan adrodd y stori nad yw o reidrwydd yn ddilyn llinell amser y gêm cyhyd ond yn ddarllen mewn modd sy'n ddifyr ac yn gyflawn.[14]
Mae Butler hefyd wedi ysgrifennu dau lyfr am rygbi a thair nofel [11][15]
Gwaith elusennol
Yn 2010 aeth Butler ynghyd â 14 o gyn capteiniaid rygbi Cymru a'r prif hyfforddwr ar daith i gopa Kilimanjaro, mynydd uchaf Affrica. Roeddynt am gasglu £1miliwn ar gyfer ymchwil Canolfan Canser Ysbyty Felindre i ganser yr ysgyfaint.[16]
Mae Butler yn llysgennad i Prostate Cymru, sefydliad sydd yn codi ymwybyddiaeth o ganser y brostad.[17]
Bu farw yn ei gwsg yng ngwersyllfa mynydda Ecoinka yn ystod taith gerdded elusennol ar gyfer Prostad Cymru ym mynyddoedd yr Andes yn Peru. Roedd yn 65 mlwydd oed.[20]
Llyfryddiaeth
Llyfrau rygbi gan Eddie Butler
The Tangled Mane: The Lion's Tour of Australia 2001 (Llundain: Bloomsbury, 2001)