Aloi caled, cryf a hydrin wedi'i greu o haearn a charbon yw dur. Yng nghanol y 18g dechreuwyd creu dur yn helaeth yn Ne Cymru. Cafwyd yr haearn i greu'r dur o weithfeydd haearn byd enwog Merthyr Tudful: Penydarren, Dowlais, Cyfarthfa a llawer mwy yn ne Cymru.
Geirdarddiad
Gair benthyg o'r Lladin yw "dur", a dardda o'r gair "dūrus" [1], ansoddair yn golygu 'caled'.[2]
Ffynonellau