Bwrdeistref fetropolitan yn Tyne a Wear, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Dinas Newcastle upon Tyne (Saesneg: City of Newcastle upon Tyne).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 113 km², gyda 302,820 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ogledd Tyneside a De Tyneside i'r dwyrain, Bwrdeistref Fetropolitan Gateshead i'r de, a Northumberland i'r gogledd.
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Mae gan y fwrdeistref chwe plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys dinas Newcastle upon Tyne, lle mae ei phencadlys.