Prifddinas Jibwti yng ngogledd-ddwyrain Affrica yw Dinas Jibwti neu dim ond Jibwti (Arabeg: جيبوتي}, Somaleg: Jabuuti, Ffrangeg: Ville de Djibouti). Hi yw dinas fwyaf y wlad, gyda phoblogaeth o tua 400,000. Mae hefyd yn borthladd pwysig.
Heblaw bod o bwysigrwydd economaidd mawr i'r wlad ei hun, mae porthladd Dinas Jibwti wedi dod yn bwysig iawn i Ethiopia wedi i'r wlad honno golli ei mynediad at y môr pan ddaeth Eritrea yn annibynnol. Mae rheilffordd yn cysylltu Dinas Jibwti ag Addis Ababa.
Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!