David R. Edwards

David R. Edwards
GanwydDavid Rupert Edwards Edit this on Wikidata
3 Medi 1964 Edit this on Wikidata
Aberteifi Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mehefin 2021 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcerddor, canwr Edit this on Wikidata

Canwr, cerddor a bardd oedd David R. Edwards (3 Medi 196420 Mehefin 2021).[1][2][3] Roedd yn cael ei adnabod gan sawl enw yn cynnwys 'Dave Datblygu', 'Dave Edwards' a 'D.R.E.'. Daeth i'r amlwg fel arweinydd y grŵp ôl-pync, arbrofol, Datblygu. Yn ôl John Peel, roedd ei gyfansoddiadau gwreiddiol a chlyfar yn ddigon o reswm ynddynt eu hunain i ddysgu'r iaith Gymraeg.[4]

Bywgraffiad

Ganwyd David Rupert Edwards yn unig fab i Elizabeth Maud Edwards (Betty) a Daniel Mervyn Edwards ac fe'i magwyd yn Aberteifi. Mynychodd Ysgol Uwchradd Aberteifi a disgrifiodd ei addysg fel rhywbeth diflas a di-bwrpas. Tra yn yr ysgol fe ffurfiodd y grŵp Datblygu gyda'i ffrind T. Wyn Davies yn 1982. Ymunodd Patricia Morgan a'r grŵp yn 1984. Gyda'i ddawn o ysgrifennu geiriau caneuon bachog a heriol, fe'i ddisgrifiwyd gan lawer fel bardd.[3] Er iddo ysgrifennu cyfrol o farddoniaeth hefyd, nid oedd yn gweld ei hun fel bardd.[5]

Yn ogystal â Datblygu, gweithiodd David gyda Tŷ Gwydr a Llwybr Llaethog ar L.L. v T.G. MC DRE yn 1992. Tua'r un adeg daeth yn athro yn ysgol uwchradd Llanfair Caereinion ond dywedodd iddo gael ei ddi-swyddo oherwydd ei smygu ac yfed. Daeth cyfnod cyntaf y grŵp i ben ar ôl rhyddhau eu sengl Putsch yn 1995, oherwydd salwch David. Ym mis Medi 2004 ail-ryddhawyd Libertino gan label Ankstmusik mewn bocs-driphlyg ynghyd a'r ddwy albwm cyntaf, Wyau a Pyst. Cyflwynodd hwn gerddoriaeth Dave i genhedlaeth newydd.[6]

Bywyd personol

Bu David a'i gyd-aelod yn Datblygu, Pat, yn gariadon am ryw 3/4 mlynedd yn yr 1980au, ac yn ffrindiau gydol oes. Wedi cyfnod prysur gyda Datblygu ar ddechrau'r 1990au, gwaethygodd ei iechyd meddwl a chafodd ei anfon i'r ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Treuliodd gyfnod o 15 neu 16 mlynedd i mewn ac allan o'r ysbyty meddwl.[7][5]

Yn 2009, cymerodd Dave ran mewn rhaglen ddogfen O Flaen dy Lygaid: Gorawen, ynghyd a'i gyfaill yr actores a'r gantores Rhian Ree Davies. Roedd y ddau yn siarad yn agored am eu salwch, ac am eu cyfnodau mewn ysbytai meddwl.[8] Cyhoeddwyd hunangofiant David gan Y Lolfa ym mis Hydref 2009, sef Atgofion Hen Wanc.

Marwolaeth a theyrngedau

Bu farw ar ddydd Sul 20 Mehefin 2021, yn ei gartref yng Nghaerfyrddin, yn 56 mlwydd oed.[1] Roedd wedi bod yn dioddef gyda phroblemau iechyd yn cynnwys epilepsi a chlefyd y siwgr. Cyhoeddwyd y neges gan label Ankstmusik ar Twitter nos Fawrth, 22 Mehefin.[9]

Dywedodd Emyr Glyn Williams o Label Recordiau Ankst fod Dave yn y broses o baratoi ar gyfer creu albym newydd gyda Pat Morgan.

Cafwyd nifer fawr o deyrngedau ar y cyfryngau cymdeithasol. Dywedodd Pat Morgan fod David yn "un o'r ffrindiau gorau allan rywun gael. Personoliaeth enfawr, hael, arth o ddyn; bydd ei ddylanwad yn dal i fyw".[10] Yn ôl y DJ ac actor Gareth Potter roedd hi'n "anrhydedd bod wedi gallu galw Dave yn ffrind" ac "Roedd Dave yn cynrychioli y teimlad ‘na o ankst, y teimlad o ‘ma raid bod mwy i fywyd na be oedd yn mynd ymlaen yng Nghymru ar y pryd’".[11]

Cafwyd teyrnged gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn dweud "Newyddion hynod o drist. Chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu y diwylliant rydym yn ei nabod a’i fwynhau heddiw".[12]

Cynhaliwyd angladd preifat iddo am 1pm ar ddydd Sadwrn, 3 Gorffennaf yn Eglwys y Santes Fair, Aberteifi cyn ei gladdu ym mynwent Aberteifi.

Disgyddiaeth

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Hysbyseb marwolaeth David R EDWARDS. Carmarthen Journal (30 Mehefin 2021).
  2. Proffwyd heb anrhydedd; Hunangofiant athrylith amherffaith. , Daily Post, 4 Tachwedd 2009. Cyrchwyd ar 5 Gorffennaf 2016.
  3. 3.0 3.1 Prif leisydd Datblygu, David R Edwards wedi marw , BBC Cymru Fyw, 22 Mehefin 2021.
  4. (Saesneg) SCENE BUT NOT HEARD: PEELING BACK THE YEARS. Sound Nation (2004). Adalwyd ar 20 Awst 2007.
  5. 5.0 5.1 (Saesneg) Sarah King (22 Mai 2014). Datblygu Now. Wales Arts Review. Adalwyd ar 25 Mehefin 2021.
  6. (Saesneg) Datblygu - Wyau/Pyst/Libertino. BBC (Medi 2004). Adalwyd ar 22 Mehefin 2021.
  7. (Saesneg) Ioan Humphreys (21 Rhagfyr 2015). Datblygu – Interview with cult Welsh band. Louder Than War. Adalwyd ar 25 Mehefin 2021.
  8. O Flaen Dy Lygaid: Gorawen , WalesOnline, 6 Mehefin 2009. Cyrchwyd ar 22 Mehefin 2021.
  9. Datganiad Ankstmusik ar Twitter
  10. Pat Morgan [@patblygu] (22 Mehefin 2021). "David is no longer with us. He was one of the best friends you could ever have. A huge, generous personality, a bear of a man; his legacy will live on" (Trydariad) – drwy Twitter.
  11. Nath e ddod â drych i ddiwylliant Cymreig… , Golwg360, 23 Mehefin 2021. Cyrchwyd ar 27 Mehefin 2021.
  12. Mark Drakeford [@fmwales] (22 Mehefin 2021). "Newyddion hynod o drist. Chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu y diwylliant rydym yn ei nabod a'i fwynhau heddiw. Incredibly sad news - Wales has lost a cultural giant" (Trydariad) – drwy Twitter.

Dolenni allanol

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!