Nofiwr pellter hir o Gymru yw David Davies (ganwyd 3 Mawrth 1985, Y Barri).[1] Cystadlodd yng Ngemau'r Gymanwlad 2002 ym Manceinion. Cymreodd ran ym Mhencapwriaethau Iau Ewrop tra'n dal yn ei arddegau,lle enillodd fedal aur yn 2003. Mae'n arbenigo yn y ras steil rhydd 1,500 metr. Cystadlodd yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2004 yn Athen, lle cipiodd y fedal efydd gyda amser o 14:45.95 gan osod record Prydeinig ac Ewropeaidd. Fe gipiodd yr efydd unwaith eto ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2005. Enillodd yr aur yn y ras 1,500 metr a'r efydd yn y 400 metr tra'n cynyrchioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2006 yn Melbourne.
Fe gynrychiolodd Davies wledydd Prydain yng Ngemau Olympaidd 2004, 2008 a 2012, yn y ras 1500 km.[2] Cafodd ei dderbyn i nofio'r Marathon 10 km Olympaidd ac yn Beijing daeth yn ail yn y gamp Olympaidd newydd. Yn fuan wedi gorffen y ras, roedd pryder am gyflwr Davies wrth i staff Cymorth Cyntaf ruthro i'w gludo ffwrdd am driniaeth feddygol. Fe ddywedodd Davies ei fod rhoi ei oll yn rhan olaf y ras am ei fod mor benderfynol o ennill.[3]
Mae David Davies wedi dod yn eicon nofio ym Mhrydain ac Awstralia. Noddir ef gan Speedo.
Dolenni allanol
Cyfeiriadau