Darn ceg

Y rhan o offeryn chwyth sydd wedi'i gosod yn erbyn gwefusau y chwaraewr (neu yng ngheg y chwaraewr) yw darn ceg. Mae'r chwaraewr yn chwythu drwyddo gan greu'r d

Darn ceg
Darn ceg
Mathrhan o offeryn cerdd Edit this on Wikidata
Rhan oofferyn chwyth Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y rhan o offeryn chwyth sydd wedi'i gosod yn erbyn gwefusau y chwaraewr (neu yng ngheg y chwaraewr) yw darn ceg. Mae'r chwaraewr yn chwythu drwyddo gan greu'r dirgryniad sylfaenol sy'n cynhyrfu'r golofn o aer yng nghorff yr offeryn. Mae'r darn ceg ar y cyd â gwefusau'r chwaraewr yn creu ansawdd nodweddiadol yr offeryn. Fel arfer, mae'r darn ceg yn eitem ar wahân y gellir ei thynnu oddi ar gorff yr offeryn, er y gellir gwneud rhai offerynnau bach mewn un darn (e.e. chwisl dun).

Offerynnau pres

Mae pob offeryn pres yn defnyddio math tebyg o ddarn ceg, gydag amrywiadau bach o ran siâp. Mae'r darn yn cynnwys agoriad tebyg i gwpan. Mae siâp a maint penodol y cwpan yn effeithio ar yr ansawdd a'r nodweddion chwarae (pa mor hawdd yw hi i'r chwaraewr wneud i'r offeryn swnio). Er enghraifft, mae cwpan trwmped yn fwy crwn na chwpan y corn Ffrengig: mae gan y ddau offeryn eu tôn nodweddiadol eu hunain, ac mae'r corn yn anoddach i'w reoli na'r trwmped.

Chwythbrennau

Offerynnau â chorsen sengl

Mae gan offerynnau chwythbren â chorsen sengl, fel yr clarinét a'r sacsoffon, ddarn ceg i ddal y gorsen yn ei lle. Mae'r gorsen wedi'i chlymu i'r darn ceg gan adael agoriad bach rhwng y gorsen a'r darn ceg y mae'r chwaraewr yn chwythu drwyddo. Mae'r gorsen yn cael ei gosod ar wefus isaf y chwaraewr ac mae ei wynt yn achosi i'r gorsen ddirgrynu, ac mae hyn yn ei dro yn achosi i'r golofn o aer y tu mewn i'r offeryn ddirgrynu.

Darn ceg clarinét gyda'r gorsen yn ei lle

Offerynnau â chorsen ddwbl a chap corsen

Dyma ddosbarth o offerynnau â chorsen ddwbl lle nad yw ceg y chwaraewr yn gwneud unrhyw gysylltiad â'r gorsen, fel y crymgorn a phib alaw y bibgod Albanaidd. Mae'r gorsen wedi'i chuddio y tu mewn i gap corsen sy'n gweithredu fel darn ceg.

Crymhorn; mae'r cap corsen tua'r chwith.
Crymhorn; mae'r cap corsen wedi cael ei dynnu, gan ddatgelu'r gorsen ddwbl y tu mewn.

Offerynnau â chorsen ddwbl a pirouette

Dyma ddosbarth o offerynnau â chorsen ddwbl lle mae'r gorsen y tu mewn i geg y chwaraewr, ond nid yw ei wefusau'n ei gafael. Yn lle hynny mae'r gwefusau'n gorffwys yn erbyn pirouette sy'n gweithredu fel darn ceg. Mae'r chwythgorn yn offeryn sydd â pirouette.

Dau faint o chwythgorn. Mae'r pirouette i'w gweld yn dal y gorsen ar bennau'r offerynnau.

Ffliwtiau topyn

Offerynnau nad oes ganddynt gorsen fel y recorder, y fflasioled neu'r chwisl dun yw ffliwtiau topyn. Mae gwynt y charaewr yn cael ei gyfeirio trwy sianel ac yn taro ymyl miniog. Mae cyfuniad y sianel a'r ymyl miniog yn ffurfio'r darn ceg.

Recorder: mae'r darn geg ar yr ochr chwith
Trawstoriad o ddarn geg recorder; A = topyn, B = sianel, C = ymyl miniog

Offerynnau chwythbren heb ddarn ceg

Nid oes gan bob offeryn chwythbren ddarn ceg. Er enghraifft:

  • Y ffliwt draws, sef y math cyfarwydd o'r ffliwt a geir mewn cerddorfa. Cynhyrchir y sain gan wynt y chwaraewr sy'n chwythu dros ymyl twll; mae'r gwefusau'r chwaraewr yn cymryd lle'r sianel yn y darn ceg mewn ffliwt dopyn.
  • Yr obo a'r basŵn. Cynhyrchir y sain gan gorsen ddwbl sy'n cael ei dal rhwng gwefusau'r chwaraewr. Mae'r rhan o'r gorsen y tu mewn i'r geg yn dirgrynu; mae'r geg y chwaraewr yn gweithredu fel cap corsen mewn crymgorn.

Ffynonellau

  • Anthony C. Baines, Woodwind Instruments and Their History (Llundain: Faber and Faber, 1967)

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.