Math o offeryn chwythbren syml â chwe thwll yw'r chwisl dun neu chwiban geiniog. Mae'n fath o ffliwt topyn. Mae'r chwiban tun yn gysylltiedig yn agos â cherdd
| Math | ffliwt, open flute with internal duct with fingerholes |
|---|---|
| Deunydd | pren, metel |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0bmnm |
| Quora | Tin-whistle |
Math o offeryn chwythbren syml â chwe thwll yw'r chwisl dun neu chwiban geiniog. Mae'n fath o ffliwt topyn. Mae'r chwiban tun yn gysylltiedig yn agos â cherddoriaeth draddodiadol Iwerddon.[1] Mae'r rhan fwyaf o chwislau tun heddiw wedi'u gwneud o bres neu bres wedi'i blatio â nicel, gyda darn ceg o blastig.
Cynhyrchwyd chwislau tun gyntaf gan ffatri Robert Clarke ym Manceinion ym 1840.[2] Fe'u gwerthwyd am geiniog; roeddynt yn hawdd i'w chwarae ac yn cael eu hystyried yn degan. Fe'u mabwysiadwyd yn gyflym gan sawl traddodiad gwerin ym Mhrydain ac Iwerddon. Yn Iwerddon yn arbennig daeth traddodiad chwarae'r offeryn yn soffistigedig, gyda repertoire o addurniadau cywrain.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.