Ardal fynyddig o tua 12,000 km2 yw Dalmatia, yn cynnwys rhan o'r Alpau Dinarig. Oherwydd hyn mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth o tua 900,000 yn byw yn agos i'r glannau. Mae nifer fawr o ynysoedd hefyd yn perthyn i'r diriogaeth. Y brifddinas ranbarthol yw Split, ac mae dinasoedd pwysig eraill yn cynnwys Dubrovnik, Zadar a Sibenik.
Yn y cyfnod cyn y Rhufeiniaid, poblogid Dalmatia gan yr Iliriaid. Creodd y Rhufeiniaid deyrnas ddibynnol, ac yna tua chanol yr 2g CC daeth y diriogaeth yn dalaith Rufeinig dan yr enw Dalmatia. Yn ddiweddarach daeth yn rhan o'r Ymerodraeth Fysantaidd ac yn nes ymlaen o'r 14eg hyd y 18g daeth yn eiddo Fenis. Wedi cwymp Napoleon daeth yn rhan o Awstria.
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf bu cystadlu rhwng Yr Eidal a Yugoslavia am y diriogaeth, ac yn 1921 daeth yn rhan o Yugoslavia. Pan rannwyd Yugoslavia daeth Dalmatia yn rhan o Croatia.
Gyda thalaidd hanesyddol perfeddwlad Croatia, Istria a Slavonia mae'n creu pedair talaith hanesyddol sy'n ffurfio gweriniaeth annibynnol Croatia gyfoes.