Cytunwyd y Cytundeb Gwrth-Comintern rhwng yr Almaen Natsïaidd a Siapan yn 1936 ac ymunodd yr Eidal dan arweiniaeth yr unben Mussolini flwyddyn yn hwyrach. Amcan y cytundeb rhwng y llywodraethau ffasgaidd hyn oedd cyd-weithio a thrafod sut i amddiffyn eu gwledydd yn erbyn bygythiad tybiedig y Comintern comiwnyddol. Trwy hyn wrth gwrs derbyniwyd mai’r Undeb Sofietaidd oedd y targed hefyd.