Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) (Saesneg: Higher Education Funding Council for Wales, HEFCW) yw’r Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ariannu’r sector addysg uwch.[1] Sefydlwyd CCAUC yn 1992 ond daeth i ben yn 2023 wrth i Lywodraeth Cymru ailasesu ariannu prifysgolion Cymru.[2]
Mae CCAUC yn dosbarthu cyllid ar gyfer addysg, ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig yn sefydliadau addysg uwch Cymru, ac yn ariannu gweithgareddau addysgu'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae hefyd yn ariannu cyrsiau addysg uwch mewn colegau addysg bellach.
Mae’r corff yn defnyddio adnoddau gan Lywodraeth Cymru ac eraill i:
Mae'r gweithgareddau hyn yn cyfrannu at wella cyfiawnder cymdeithasol a chefnogi economi fywiog.
Mae CCAUC wedi nodi’r canlynol yn ei Strategaeth Gorfforaethol fel y meysydd y bydd yn gweithio arnynt yn bennaf:
Rhaid i bob prifysgol yng Nghymru sydd am godi ffioedd dysgu uwchlaw lefel y ffioedd sylfaenol (£4,000 ar gyfer myfyriwr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn 2012/13) geisio cymeradwyaeth CCAUC yn gyntaf drwy gyflwyno ‘cynllun ffioedd’ sy’n bodloni gofynion penodol mewn perthynas â i ehangu mynediad a chynhwysiant. [3]
Sefydlwyd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ym mis Mai 1992 o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Mae cyfrifoldebau CCAUC am hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA), gan gynnwys achredu darparwyr HCA, yn dod o dan Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004 a Deddf Addysg 2005.
Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, mae CCAUC yn cael ei gyllid gan Lywodraeth Cymru ac yn atebol iddi. Ar yr un pryd, mae CCAUC yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar anghenion cyllido, dyheadau a phryderon y sector addysg uwch. Mae CCAUC hefyd yn hyrwyddo buddiannau Cymru ym maes addysg uwch ehangach y Deyrnas Unedig.
Mae tua 45 aelod o staff yn gweithio i Weithrediaeth CCAUC, sydd wedi'i leoli ym Medwas, Sir Caerffili Cymru. Mae CCAUC yn cael ei lywodraethu gan Gyngor o hyd at 12 aelod, gan gynnwys y Cadeirydd, Mr David Allen, a’r Prif Weithredwr, Dr David Blaney.
Ym mis Tachwedd 2021 cyhoeddodd Gweinidog Addysg Senedd Cymru, Jeremy Miles AS, bydd HEFCW yn dod i ben fel rhan o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.[2] Caiff ei disodli gan gorff newydd Medr (a elwir yn stadudol yn Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Commission for Tertiary Education and Research) a sefydlwyd ym mis Awst 2024. Mae Medr yn gyfrifol am strategaeth, cyllido a goruchwylio'r sectorau canlynol: