Cwm Prysor

Cwm Prysor
Mathdyffryn, cefn gwlad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrawsfynydd Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.90639°N 3.87339°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH7410435972 Edit this on Wikidata
Map

Cwm mynyddig ym Meirionnydd, Gwynedd, yw Cwm Prysor. Gorwedd i'r dwyrain o Drawsfynydd.

Mae union ystyr y gair prysor yn ansicr, ond mae'n debygol ei fod yn gyfuniad o'r gair prysg, sef "llwyni" neu "mangoed", a'r terfyniad -or sy'n dynodi amledd. Gellid cynnig fod yr enw yn cyfeirio at y prysgwydd a dyfai yn y cwm.[1]

Yr A4212 yn dringo o Gwm Prysor

Llifa Afon Prysor ar hyd y cwm, o'i tharddle yn Llyn Conglog Mawr ar ymyl y Migneint.

Tua milltir ahanner o ben uchaf y cwm, ger Craig yr Aderyn, ceir adfeilion Castell Prysor, castell sy'n dyddio o gyfnod Owain Gwynedd. Arhosodd Brenin Lloegr Edward 1af yma yn 1284, a mae llythyr a ysgrifennodd wedi ei gyfeirio o'r castell, yn bodoli.

Roedd y rheilffordd o Blaenau Ffestiniog i Bala yn rhedeg drwy'r cwm, ond fe'i caewyd pan foddwyd Cwm Tryweryn i greu cronfa ddŵr i Lerpwl yn 1965.

Yng Nghwm Prysor mae Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, Bardd y Gadair Ddu.

Ar un adeg bu Cwm Prysor yn lle digon diarffordd ond heddiw mae'r ffordd A4212 rhwng Trawsfynydd a'r Bala yn rhedeg trwyddo.

Brodor arall o Gwm Prysor yw'r awdur a'r cerddor Dewi Prysor.

Cyfeiriadau

  1. 'Enwau lleoedd' yn Atlas Meirionnydd (Y Bala, 1975).

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!