Cymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili yw Cwm Aber (Saesneg: Aber Valley). Saif i'r gogledd-orllewin o dref Caerffili, ac yn 2001, roedd poblogaeth y gymuned yn 6,696. Mae'n cynnwys pentrefi Senghennydd ac Abertridwr.
Arferai'r diwydiant glo fod yn bwysig iawn yn yr ardal yma, a thyfodd y boblogaeth wedi i lofeydd Universal a Windsor gael eu hagor yn y 1890au. Yn 1913, lladdwyd 439 o lowyr pan fu ffrwydrad yng nglofa'r Universal, Senghennydd.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Cwm Aber (pob oed) (6,799) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cwm Aber) (1,020) |
|
15.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cwm Aber) (6048) |
|
89% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Cwm Aber) (1,045) |
|
37.6% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau