Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Pontllan-fraith,[1] hefyd Pontllanfraith.[2] Saif yn Nyffryn Sirhywi, gerllaw tref Coed Duon ac ar Afon Sirhywi.
Arferai fod yn ardal lofaol bwysig, gyda'r glofeydd yn cynnwys y Wyllie, Penallta ac Oakdale. Ceir ysgol ramadeg a chlwb rygbi yma.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Chris Evans (Llafur).[4]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Pontllan-fraith (pob oed) (8,552) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pontllan-fraith) (831) |
|
10.1% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pontllan-fraith) (7671) |
|
89.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pontllan-fraith) (1,361) |
|
38.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Enwogion
Cyfeiriadau