Dull o wnïo yw cwiltio, a wneir gyda llaw neu beiriant gwnïo. Gelwir person sydd yn cwiltio yn gwiltiwr. Mae'r broses yn defnyddio nodwydd ac edau er mwyn uno
| Math | textile process, difyrwaith |
|---|---|
| Cynnyrch | cwilt |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/069fd |
| Quora | Quilting |

Dull o wnïo yw cwiltio, a wneir gyda llaw neu beiriant gwnïo. Gelwir person sydd yn cwiltio yn gwiltiwr. Mae'r broses yn defnyddio nodwydd ac edau er mwyn uno dau neu fwy o haenau o ddefnydd er mwyn creu cwilt. Fel rheol, defnyddir tri haenen er mwyn creu cwilt. Mae haenen uchaf y cwilt yn ddefnydd (clytwaith weithiau), gyda wadin neu flanced gwlan yn y canol, a chefnyn plaen yn ffurfio'r haenen isaf. Er mwyn cadw'r wadin rhag symud oddi fewn y cwilt, caiff ei wnïo gyda pwyth rhedegog i glymu'r haenau at ei gilydd. Mae'r pwythau yn addurno'r cwilt yn ogystal â dal y strwythur at ei gilydd. Mae cwiltio yn cael ei wneud ar gwrlidau, cwiltiau celf ar gyfer hongian, dillad ac amryw o ddeynydd arall defnydd.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.