Clytwaith

Math o wniadwaith yw clytwaith, lle mae darnau o ddefnydd yn cael eu gwnïo at ei gilydd er mwyn creu cynllun mwy. Mae'r cynllun fel arfer yn seiliedig ar batrw

Clytwaith
Clytwaith
Mathpiecing Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0d4by edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF18210 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Esiampl o glytwaith gyda siapiau â ochrau sydd ddim yn syth

Math o wniadwaith yw clytwaith, lle mae darnau o ddefnydd yn cael eu gwnïo at ei gilydd er mwyn creu cynllun mwy. Mae'r cynllun fel arfer yn seiliedig ar batrwm wedi ei greu o amryw o liwiau, ac yn cael ei ail-adrodd. Caiff y siapiau sy'n creu'r patrwm eu mesur a'u torri yn ofalus. Yn draddodiadol ac fel rheol, mae'r siapiau yn rai geometrig ag ochrau syth, sy'n eu gwneud yn haws i'w clytio at ei gilydd, ond mae'r grefft wedi datblygu yn sylweddol erbyn hyn ac mae clytwaith yn aml yn cael ei ddefnyddio i greu delweddau cymhleth. Mae uno gofalus yn creu clytwaith sy'n gorwedd yn berffaith fflat, heb rychau.

Pan ddefnyddwyd clytwaith er mwyn creu cwilt, mae'r clytwaith yn ffurfio haenen uchaf y cwilt gyda wadin neu flanced gwlan yn y canol, a chefnyn plaen yn ffurfio'r haenen isaf. Er mwyn cadw'r wadin rhag symud oddi fewn y cwilt, caiff ei gwiltio gyda llaw, neu beiriant gwnïo i greu pwyth rhedegog sy'n clymu'r haenau at ei gilydd. Gall y pwthau redeg o amgylch ymyl y darnau sy'n creu'r patrwm, gall fod yn batrwm ar hap, neu gall fod yn batrwm â strwythur cymhleth sy'n cyferbynnu gyda phatrwm y clytwaith.

Yn y gorffennol bu cwiltio yn cael ei gwblhau gyda llaw gan grŵp o bobl o amgylch ffram a oedd yn dal y cwilt yn dyn.[1] Weithiau, yn hytrach na chwiltio, gall y haenau cael eu clymu at ei gilydd gyda phwyth sengl o edau byr a gaiff ei glymu, a rhoddir cylymau ar draws y cwilt mewn patrwm cyson.

Mae tri modd traddodiadol o ffurfio strwythur clytwaith, sef 1) bloc 2) cyflawn 3) clytio stribedi. Mae nifer o batrymau traddodiadol yn berchen ar enwau penodol yn seiliedig ar y patrwm a greir gan y lliwiau a'r siapiau.

'Daeth Edrica Huws â gweledigaeth hollol newydd i glytwaith.'[2]

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau

  1. "hand quilting". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-29. Cyrchwyd 2009-08-26.
  2. http://www.bbc.co.uk/cymru/bywyd/safle/pobl/tudalen/edrica_huws.shtml

Dolenni allanol

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.