Cronos

Ym mytholeg Roeg, arweinydd y Titaniaid, y genhedlaeth gyntaf o dduwiau, plant Gaia, y ddaear, ac Wranos yr awyr oedd Cronos neu Cronus (Hen Roeg: Κρόνος)

Cronos
Cronos
Enghraifft o:Titan Edit this on Wikidata
Rhan oUranids Edit this on Wikidata
RhagflaenyddUranus Edit this on Wikidata
OlynyddZews Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/024sb edit this on wikidata
QuoraChronus-1 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cronos yn gorchfygu ei dad, Wranos

Ym mytholeg Roeg, arweinydd y Titaniaid, y genhedlaeth gyntaf o dduwiau, plant Gaia, y ddaear, ac Wranos yr awyr oedd Cronos neu Cronus (Hen Roeg: Κρόνος).'[1] Diorseddodd Cronos ei dad, ac ef oedd y rheolwr yn ystod yr Oes Aur, hyd nes iddo ef gael ei ddiorseddu gan ei feinion, Zews, Hades a Poseidon. Roedd yn cyfateb i Sadwrn yn y traddodiad Rhufeinig. Cysylltir ef â'r cnydau a'r cynhaeaf ac ag amser.

Yn ôl un chwedl, roedd Wranos wedi cuddio plant ieuengaf Gaia, Hecatonchires a Seiclopsiaid, yn Tartarws, fel na allent weld y goleuni. Perswadiodd Gaia ei mab Cronos i ymosod ar Wranos â chryman, gan ei ysbaddu. Daeth Cronos â'i wraig Rhea yn rheolwyr.

Roedd proffwydoliaeth y diorseddid Cronos gan un o'i blant, ac o'r herwydd, llyncodd Demeter, Hera, Hades, Hestia a Poseidon cyn gynted ag y ganwyd hwy. Rhoddodd Rhea enedigaeth i'r chweched plentyn, Zews, mewn ogof ar Fynydd Ida ar ynys Creta, a rhoddodd garreg, yr Omphalos, mewn dillad baban i Cronos ei llyncu. Wedi iddo dyfu, gorfododd Zews ei dad i chwydu ei frodyr a'i chwiorydd, a bu rhyfel, y Titanomachia, rhyngddynt hwy a'r Titaniaid, a diorseddwyd Cronos gan Zews. Yn ôl rhai fersiynau, carcharwyd ef yn Tartarws; yn ôl Pindar daeth yn frenin Elysiwm.

Cyfeiriadau

  1. Galwyd ef gan Andrew Lang yn Cronos, sillafiad nad yw'n yr Hen Roeg nac yn Lladin; gweler llyfr Robert Brown: Semitic influence in Hellenic mythology, 1898, tudd. 112-13.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.