Rhaglen o argymhellion polisi economaidd yw Consensws Washington a bennir i wledydd datblygol i geisio gwella'r sefyllfa economaidd drwy ryddfrydoli. Deillia'r term o 1989, pan gyflwynodd yr economegydd John Williamson restr o ddiwygiadau a gafodd ei argymell yn aml yn y 1980au i wledydd De America gan gyrff a leolir yn Washington, D.C., yn bennaf y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF), Banc y Byd, ac Adran Trysorlys yr Unol Daleithiau. Nod y diwygiadau yw lleihau rheoliadau, rhyddfrydoli'r farchnad, a sefydlogi'r economi.[1] Yn y 1990au a'r 21g, mabwysiadir y Consensws gan sawl gwlad arall mewn ymgais i ddatrys argyfyngau dyled a chwyddiant.
Lluniodd John Williamson deng pwynt polisi tra'r oedd yn gweithio i'r Institute for International Economics, melin drafod a leolir yn Washington, D.C.:
- Disgyblaeth o ran polisi cyllidol, gan osgoi diffygion ariannol mawr o gymharu â CMC;
- Ailgyfeirio gwariant cyhoeddus o gymorthdaliadau tuag at wasanaethau sylfaenol megis addysg gynradd, gofal iechyd, ac isadeiledd;
- Diwygiadau i ehangu'r hyn y gellir ei drethi a mabwysiadu cyfraddau trethi ymylol cymedrol;
- Cyfraddau llog a bennir gan y farchnad;
- Cyfraddau cyfnewid cystadleuol;
- Rhyddfrydoli masnachol, gan gynnwys diddymu diffyndollaeth ac eithrio tariffau isel;
- Rhyddfrydoli buddsoddi uniongyrchol gan gorfforaethau tramor;
- Preifateiddio;
- Dadreoli, ac eithrio rheoliadau a gyfiawnheir ar sail diogelwch, yr amgylchedd, ac amddiffyn prynwyr;
- Sicrhau hawliau eiddo.[2]
Ystyrir y Consensws yn nodweddiadol o neo-ryddfrydiaeth a globaleiddio economaidd, a dadleuai gwleidyddion, economegwyr ac arbenigwyr polisi bod y rhaglen yn ffordd o dyfu economïau'r Trydydd Byd ac i sicrhau datblygiad economaidd. Yn ddiweddarach fe defnyddir y term yn ddifrïol, er enghraifft gan neo-Keynesiaid a'r mudiad gwrth-globaleiddio, i ddisgrifio agenda neo-ryddfrydol sydd yn atgyfnerthu'r drefn gyfalafol drwy integreiddio'r economi fyd-eang. Honnir bod sefydliadau pwerus y byd datblygedig yn gorfodi'r fath bolisïau ar wledydd datblygol, a bod y cyfoethog yn manteisio ar y Consensws i raddau uwch o lawer na'r tlawd. Trwy fabwysiadu'r Consensws, dywed bod gwledydd yn newid o sefyllfaoedd argyfyngus dros dro i ddibyniaeth hirdymor ar fasnach ryngwladol a sefydliadau'r byd datblygedig.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ Roger Scruton, The Palgrave Macmillan Dictionary of Political Thought, 3ydd argraffiad (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2007), t. 730.
- ↑ John Williamson, "What Washington Means by Policy Reform" yn John Williamson (gol.), Latin American Readjustment: How Much has Happened (Washington, D.C.: Institute for International Economics, 1989). Adalwyd ar 19 Chwefror 2018.
- ↑ (Saesneg) Washington Consensus. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Chwefror 2018.