Chwyddiant

Chwyddiant
Delwedd:Cpis.PNG, CPI GDP M2 and Velocity.png
Enghraifft o:cysyniad economaidd, ffenomen Edit this on Wikidata
Matheconomic problem Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebdeflation Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Graddfa chwyddiant ledled y byd yn 2019, yn ôl yr IMF.
Chwyddiant (glas) a datchwyddiant (gwyrdd) yn Unol Daleithiau America rhwng 1666 a 2019.

Yn gyffredinol, cyflwr economaidd yw chwyddiant pan fo prisiau nwyddau a gwasanaethau'n codi am ysbaid o amser, hynny yw, pan fo swm yr arian dreigl a chredyd yn cynyddu o'u cymharu â maint y cynnyrch mewn nwyddau masnachol.[1][2]

Ceir tri phrif fath o chwyddiant:

  • Chwyddiant galw-tynnu (demand-pull inflation), pan fo'r galw am nwyddau yn uwch na'r cyflenwad ar y farchnad.
  • Chwyddiant cost-gwthio (cost-push infaltion), pan fo cynnydd mewn prisiau nwyddau yn absenoldeb cynnydd yn y galw amdanynt.
  • Chwyddiant ariannol (monetary inflation), pan geir cynnydd yn y cyflenwad arian.

Pan fo prisiau nwyddau a gwasanaethau'n codi, mae uned o arian yn prynu llai o nwyddau; adlewyrcha hyn y 'pŵer prynu' (purchasing power) gwladwriaeth; po fwya'r chwyddiant, po leiaf ydy'r pŵer prynu, a pho fwyaf yw'r diffyg a'r gwerth real yr economi.[3][4] Mesurir chwyddiant gan raddfa blynyddol chwyddiant a'r consumer price index.[5]

Mae chwyddiant yn effeithio'r economi mewn ffyrdd gwahanol: yn adeiladol ac yn negyddol. Yn negyddol, gwelir cynnydd yng nghostau buddsoddi, ansicrwydd o lefel chwyddiant y dyfodol (sy'n atal buddsoddi), ac (ar ei eithaf) lleihad yn y nwyddau sydd ar gael. Yn adeiladol, mae'n caniatáu i fanciau canolog graddfeydd llog, a rheoli neu leihau'r posibilrwydd o ddirwasgiad,[6] ac yn annog buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf.

Gwledydd Prydain

Datgysylltwyd arian sterling oddi ar y 'safon aur' yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn ei ariannu. Effaith hyn oedd chwyddiant a chynydd yng ngwerth aur; gwelodd y bunt, hefyd ostyngiad o fewn y cyfraddau llog rhyngwladol. Pan ail-gysylltwyd y bunt gyda'r 'safon aur' wedi'r Rhyfel Mawr, gwnaed hynny ar sail prisiau aur cyn y rhyfel, a oedd yn uwch, a bu'n rhaid gostwng prisiau'n sylweddol.

Cafwyd adegau o wrth-chwyddiant (neu 'ddatchwyddiant') yng ngwledydd Prydain: disgynnodd 10% yn 1921 a 3-5% yn y 1930au cynnar.[7]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol 1, tud. 861.
  2. Gweler:
  3. Why price stability? Archifwyd 2008-10-14 yn y Peiriant Wayback, Central Bank of Iceland, adalwyd 11 Medi 2008.
  4. Paul H. Walgenbach, Norman E. Dittrich and Ernest I. Hanson, (1973), Financial Accounting, New York: Harcourt Brace Javonovich, Inc. Page 429. "The Measuring Unit principle: The unit of measure in accounting shall be the base money unit of the most relevant currency. This principle also assumes that the unit of measure is stable; that is, changes in its general purchasing power are not considered sufficiently important to require adjustments to the basic financial statements."
  5. Mankiw 2002, tt. 22–32
  6. Mankiw 2002, tt. 238–255
  7. Bank of England Quarterly inflation report; Chwefror 2009 p33 siart A

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!