Colslo

Mae colslo (weithiau colslô; Saesneg: coleslaw neu, weithiau'n anffurfiol slaw) yn salad a wneir yn bennaf o stribedi o fresych.[1] Gellir hefyd gynnwy

Colslo
Colslo
Mathcabbage salad Edit this on Wikidata
DeunyddBresychen Edit this on Wikidata
GwladYr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Enw brodorolColeslaw Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/03pn8h edit this on wikidata
QuoraColeslaw edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Colslo bresych coch
Coloslo byr-bryd nodweddiadol mewn dysgil gyda sglodion a chig
Krautsalat yn Munich, Almaen

Mae colslo (weithiau colslô; Saesneg: coleslaw neu, weithiau'n anffurfiol slaw) yn salad a wneir yn bennaf o stribedi o fresych.[1] Gellir hefyd gynnwys moron a chynhwysion eraill, fel ffrwythau a llysiau, afal, winwns, pupur a gwahanol sbeisys. Caiff y cynhwysion eu cymysgu fel rheol ym Mhrydain ag olew olewydd hufen salan neu mayonnaise.[2]

Hanes ac Etymoleg

Mae'r term "coleslaw" yn ymddangos yn yr 17g fel Seisnigiad o'r term Iseldireg "koolsla", ffurf gryno o "koolsalade", sy'n golygu "salad bresych".[3] Nododd llyfr coginio o 1770, The Sensible Cook: Dutch Foodways in the Old and New World rysáit a briodolwyd i berchennog tŷ Iseldireg yr awdures, oedd yn cymysgu stribedi o fresych gyda menyn toddedig, finegr, ac olew. Mae'r rysáit ar gyfer colslo yn un cymharol ifanc gan na ddyfeisiwyd mayonnaise nes ganol 18g.

Mae'r gair "kool" yn Iseldireg yn gytras â'r Saesneg "caul" yn "cauliflower" a "kale" o "cale" ac, sydd ei hun, yn perthyn i'r gair Cymraeg "cawl" [4] a'r lle "Porthcawl". Daw'r gair yn wreiddiol i'r Lladin, caulis - coesyn planhigyn, bresych.[5]

Y gair Almaeneg yw Krautsalad sy'n golygu union yr un peth - salad bresych. Ceir sawl amrywiaeth ar krautsalad yn y byd Almaeneg. Yn ardal De Tirol, gwneinir colslo cynnes gydag ham.

Amrywiadau

Mae yna amryw o wahanol fathau o golslo. Gall gynnwys bresych neu binafal. Mae rhai ryseitiau'n cynnwys indrawn a finegr.[6]

Yn gyffredinol, mae coleslaw yn cael ei fwyta fel pryd cyfeiliant gyda bwydydd barbeciw, sglodion a chyw iâr wedi'i ffrio. Gall hefyd fod yn gynhwysyn brechdan neu ei weini â mwstard chili a sbeislyd. Ceir amrywiad o colslo a wneir gyda finegr ac olew yn aml yn cael ei roi gyda pizza yn Sweden.

Mae amrywiad o colslo gan gynnwys gyda chaws sewyrllys. Gall hefyd gynnwys caws, winwnsyn a hufen salad. Mae amrywiad arall, ceir colslo brocoli sy'n defnyddio brocoli amrwd yn hytrach na bresych.

Cyfeiriadau

  1. "Coleslaw." (definition.) Merriam-webster.com. Adalwyd Awst 2011.
  2. https://llawndaioni.cymru/tag/colslo/[dolen farw]
  3. Perelman, Deb. (2007-08-08) "Coleslaw: You Could Be a Star". NPR, adalwyd 24 Mehefin 2009.
  4. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html
  5. https://www.online-latin-dictionary.com/latin-english-dictionary.php?parola=caulis+
  6. ABC News, 5 Mehefin 2009. Coleslaw is also a traditional AVEN member. "Lexington Red Slaw Archifwyd 2014-02-03 yn y Peiriant Wayback" WLS-TV/DT Chicago, IL. Adalwyd 24 Mehefin 2009.

Dolenni allanol

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.