Aderyn a rhywogaeth o adar yw Cnocell Magellan (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: cnocellau Magellan) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Campephilus magellanicus; yr enw Saesneg arno yw Magellanic woodpecker. Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes.[1]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. magellanicus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Ne America.
Mae cnocell magellan Campephilus magellanicus yn gnocell goed mawr ei faint. Fe'i ceir yn ne Chile a de-orllewin yr Ariannin; nid yw’r boblogaeth yn mudo allan o’i ddosbarthiad traddodiadol. Y rhywogaeth hon yw'r enghraifft fwyaf ddeheuol o'r genws Campephilus , sy'n cynnwys yr enwog cnocell mwyaf America ( C. principalis ).
Enwau
Carpintero negro (Sbaeneg), gallo del monte (Sbaeneg), picamaderos de Magallanes (Sbaeneg),Campephilus magellanicus (gwyddonol), black woodpecker (Saesneg), mountain rooster (Saesneg), Magellan's woodpecker (Saesneg).
Disgrifiad
Dyma'r gnocell fwyaf yn Ne America ac un o'r cnocellod mwyaf yn y byd. Ymhlith y rhywogaethau y gwyddys amdanynt, dim ond aelodau nad ydynt yn neodrofannol, y genws Dryocopus a'r gnocell lwyd Mulleripicus pulverulentus sy'n fwy o gorff. Gyda difodiant tebygol cnocell fwyaf America Campephilus principalis a'r gnocell ymerodrol Campephilus imperialis, cnocell Magellan yw'r rhywogaeth fyw fwyaf o'r genws Campephilus. Gyda phwysau cyfartalog o 339 g (12.0 owns) mewn gwrywod a 291 g (10.3 owns) mewn benywod, efallai mai hwn yw'r gnocell drymaf yn sicr sy'n bodoli yn yr America[3][4]
Mae'r rhywogaeth hon yn bennaf yn lliw du pur, gyda chlytiau gwyn ar yr adain a phig llwyd, tebyg i gŷn. Mae gan wrywod ben rhuddgoch a chrib. Mae gan y benywod ben du yn bennaf, ond mae ardal o goch ar fôn y pig. Mae’r rhai ifainc yn debyg i fenywod y rhywogaeth, ond mae ganddyn nhw grib llai ac mae arlliw mwy brown i'w plu. Yn ei ddosbarthiad cydnabyddedig mae'r aderyn hwn yn ddigamsyniol ei olwg.
Mae sawl math o alwad llais gan y ddau ryw. Mae angen gwybodaeth bellach i ddarganfod swyddogaeth a rôl y synau hyn. Un llais aml yw galwad ffrwydrol, trwynol (‘’tsie-yaa neu pi-caa’’) a roddir yn sengl neu mewn cyfres (hyd at saith, weithiau mwy). Galwad uchel arall, fel arfer gan barau, yw galwad garglio, sydd fel rheol yn cael ei weiddi mewn cyfres: ‘’prrr-prr-prrr’’ neu ‘’weeerr-weeeeerr’’. Fel llawer o rywogaethau yn ‘’Campephilus’’, mae swn ei dabwrdd yn ymdebygu i gnoc dwbl uchel [5]
Teulu
Mae'r cnocell Magellan yn perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Cynefin
Mae cnocell Magellan yn byw mewn coedwigoedd aeddfed o Nothofagus a Nothofagus-Austrocedrus, lle maen nhw'n bwydo'n bennaf ar gynrhon turiol coed ac oedolion chwilod Coleoptera, yn ogystal â phryfed cop/corynnod. Weithiau, gall fwydydd eraill ategu'r ddeiet, gan gynnwys sudd a ffrwythau, yn ogystal ag ymlusgiaid bach, ystlumod ac wyau a chywion mân adar.
Ymddygiad
Mae grwpiau o’r un teulu yn clwydo gyda'i gilydd. Mewn un achos, gwelwyd pum unigolyn yn clwydo mewn twll fertigol tua 40 cm (16 mod.). Mae parau-bridio yn diriogaethol iawn ac yn aml maent yn ceisio disodli cnocellod o’r un rhywogaeth mewn modd tra ymosodol, a hyd yn oed weithiau gan wneud hynny ar y cyd â'u hepil o flynyddoedd blaenorol. Cofnodwyd ymosodiad angheuol yn 2014. Pan fyddant yn magu cywion, mae'r rhieni yn cadw eu hepil hŷn hyd braich i ffwrdd.
Deiet a bwydo
Mae'r rhywogaeth yn cyd-ddigwydd yn gyffredin ag adar penodol eraill megis y ysgytiwr Magellan Colaptes pitius a chnocell resog America Piciornis lignarius, ond nid yw'n cystadlu'n uniongyrchol â nhw oherwydd gwahanol feintiau corff a hoffterau gwahanol adrannau cynefinoedd ac ysglyfaeth. Mae'r cnocell y coed hon fel rheol yn bwydo mewn parau neu grwpiau teulu bychain ac sydd yn weithgar iawn wrth chwilio am fwyd; maen nhw'n treulio'r rhan fwyaf o'r dydd yn chwilio am ysglyfaeth. Yn gyffredinol, maen nhw'n defnyddio coed byw, ond maen nhw hefyd yn bwydo ar swbstradau marw fel coed wedi cwympo neu'n gorwedd yn naturiol ar y ddaear, er nad ydyn nhw'n treulio llawer o amser yn gwneud hynny ar y cyfan. Unwaith y bydd yr eira'n diflannu o'r ddaear yn y gwanwyn, mae cnocell Magellan yn chwilio am ysglyfaeth ar barthau is a llaith y boncyffion. Yn Tierra del Fuego, mae cnocell Magellan yn chwilota am goed sy'n pydru a marw o amgylch pyllau sy'n cynnal yr afanc Americanaidd Castor canadensis a gyflwynwyd yno.
Bridio
Mae'r gnocell Magellan yn bridio yn ystod gwanwyn yr Hemisffer Deheuol, rhwng Hydref ac Ionawr. Mae'r ddau ryw yn cydweithredu wrth gloddio ceudod y nyth mewn boncyff. Mae'r tyllau nythu wedi'u lleoli ar wahanol uchderau yn dibynnu ar ba fath o goeden a ddefnyddir, a nodweddion cynefinoedd lleol. Mae'r ceudod nythu fel rheol rhwng 5 a 15 m (16-49 tr) uwchben y ddaear. Mae benywod yn dodwy o un i bedwar wy, gyda mwyafrif helaeth o nythod yn cynnwys dau wy. Mae'r rhieni sy'n unweddog (ffyddlon i un partner) yn rhannu'r holl dyletswyddau cloddio, deori, amddiffyn tiriogaeth ac amddiffyn yn erbyn ysglyfaethwyr, a magu’r rhai ifanc. Mae oedolion fel arfer yn bridio bob yn ail flwyddyn, nodwedd nad yw wedi'i dogfennu mewn unrhyw rywogaeth cnocell y coed arall. Mae gori yn para am 15 i 17 diwrnod, gyda'r gwryw, mae’n debyg, yn gwneud y gori nosol. Mae'r ieuengaf o'r ddau epil, yn aml, yn marw o newyn. Mae’r cyw yn hedfan ar ôl tua 45 i 50 diwrnod. Ar ôl 2-3 blynedd o gael cefnogaeth eu rhieni yn y flwyddyn gyntaf, ac yna yn eu cynorthwyo, mae'r gnocell Magellan ifanc yn aeddfedu'n rhywiol. Fodd bynnag, nid yw bondiau bridio rhwng yr ifainc yn cael eu sefydlu tan 4 i 5 oed.
Ecoleg
Gwyddys am nifer o ysglyfaethwyr posib, y rhan fwyaf yn adar. Ymhlith y rhain mae’r bwncath gyddfwyn Buteo albigula, y bwncath amrywiol B. polyosoma]], y gwalch deuliw Accipiter bicolor, a’r caracara cyffredin Polyborus plancus (yr olaf yn hela rhai ifanc yn unig). Pan ddônt ar draws yr ysglyfaethwyr hyn y tu allan i’r tymor nythu, mae cnocellod Magellan fel arfer yn ymateb trwy fod yn dawel ac aros yn eu hunfan. Fodd bynnag, yn ystod y tymor nythu mae’r cnocellod hyn yn ymosod yn ffyrnig arnynt.
Statws cadwriaethol
Ar hyn o bryd, mae'r rhywogaeth wedi'i rhestru yng nghategori’r ‘pryder lleiaf’, ond serch hynny adroddwyd am ostyngiadau yn y boblogaeth. Mae colli a darnio coedwigoedd yn effeithio’n ddrwg ar hyfywedd goedwigoedd tymherus de De America ar gyfradd gynyddol. Mae'r darnio hyn felly hefyd yn fygythiad i'r gnocell Magellanic. Mae dosbarthiad y rhywogaeth wedi crebachu ac roedd eisoes yn dameidiog o ganlyniad i glirio coedwigoedd brodorol, yn enwedig yn ne-ganolog Chile, lle mae'r rhywogaeth bellach wedi'i chyfyngu i’r coedwigoedd cynhenid sy’n weddill ac o dan warchodaeth. Fe'i ceir ym Mharc Cenedlaethol Los Alerces - Esquel Patagonia - Yr Ariannin[6]. Y prif bygythiadau i’r gnocell hon yw’r newidiadau yn strwythur coedwigoedd ar ôl cynaeafu coed ohonynt, neu drawsnewid coedwigoedd i blanhigfeydd egsotig, neu darnio o ganlyniad i’r clirio. Amddiffynnir y rhywogaeth rhag ei hela yn Chile a'r Ariannin, lle nad yw'n cael ei hela'n anghyfreithlon, neu'n anaml iawn.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Safonwyd yr enw Cnocell Magellan gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.