Gwladweinydd a llyngesydd o Sais oedd Charles Howard, iarll 1af Nottingham (1536 – 14 Rhagfyr 1624), neu Howard o Effingham.[1]
Roedd Charles Howard yn fab i William Howard, barwn 1af Howard o Effingham, a'i wraig Margaret Gamage. Roedd Margaret yn cefnder Barbara Gamage, aeres o Coety ac roedd Charles Howard, felly'n gefnder i Ann Boleyn. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Ef oedd noddwr Richard Trefor (1558 - 1638), etifedd Ystad Trefalun (neu 'Drefalyn'), Maelor, (Sir Ddinbych yn y cyfnod hwnnw).