Mae Clwb Pêl-droed Merched Tref Port Talbot (Saesneg: Port Talbot Town Ladies F.C.) yn dîm pêl-droed, sy'n chwarae yng Nghynghreiriau Adran Cymdeithas Bêl-droed Cymru, y gwnaethant ymuno â hi yn 2012 - y tymor cyntaf i gynnwys cynghrair un adran.[3]
Yn ogystal â'r tîm merched hyn, ceir tim i'r merched iau.[4]
Roedd tîm merched Port Talbot yn aelodau sylfaen o Uwch Gynghrair Merched Cymru yn 2012. Mae Port Talbot wedi bod yn rhan byth-bresennol o’r gynghrair gan orffen heb fod yn is na 7fed ym mhob un o’u tymhorau. Maent hefyd wedi cyrraedd y camau cynderfynol sawl gwaith yng Nghwpan Merched Cymru a Chwpan Uwch Gynghrair Cymru.
Cynhwyswyd C.P.D.M. Port Talbot yn nhymor gyntaf yr Uwch Gynghrair a strwythur newydd pêl-droed merched Cymru newydd pan lansiwyd Genero Adran Premier yn nhymor 2021-22.[5]
Cit cartref y tîm yw crysau glas golau a thrwsus a sannau gas tywyll. Fel tîm y dynion, adwaenir y tîm gan y llysenw, 'Y Gleision' neu'n fwy cyffredin, 'The Blues'.
Mae'r clwb yn chwarae ei gemau cartref yn Victoria Road, Port Talbot, sydd â lle i 6,000.