Brwydr dyngedfennol yn hanes Hwngari oedd Brwydr Mohács, a ymladdwyd ar 29 Awst 1526 ger Mohács, Teyrnas Hwngari, gan luoedd Hwngari a'i chynghreiriaid dan arweiniad y Brenin Lajos II yn erbyn byddin oresgynnol yr Ymerodraeth Otomanaidd dan y Swltan Swleiman I. Bu'r Otomaniaid yn drech na'r Ewropeaid, ac yn sgil y frwydr rhannwyd Teyrnas Hwngari yn dridarn, gan ddod â'r rhyfeloedd Otomanaidd yn erbyn Hwngari i derfyn a nodi cyfnod newydd o frwydro yn erbyn y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd.
Nod yr Otomaniaid oedd i orchfygu Hwngari er mwyn ennill troedle i ehangu ffiniau'r ymerodraeth i Ganolbarth Ewrop. Yn y pum mlynedd cyn Brwydr Mohács, wedi cwymp Beograd i'r Otomaniaid ym 1521, cynlluniodd Swleiman i ddefnyddio ei diriogaeth a'i luoedd yn y Balcanau i lansio ymgyrch i oresgyn a gorchfygu Hwngari, ac felly ennill tra-arglwyddiaeth dros Dde Ddwyrain Ewrop oll, gyda golwg ar fygythio'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd a'r Ymerodraeth Lân Rufeinig.
Mae union niferoedd y lluoedd yn ansicr, ond credir yr oedd rhyw 60,000 o Otomaniaid a 35,000 o Hwngariaid. Dros bum niwrnod, defnyddiodd byddin Swleiman bont nofiol i groesi Afon Dravar, ac arhosodd y Brenin Lajos i wynebu'r goresgynwyr ar faes gwastad a chorslyd ger Mohács. Gobaith yr Hwngariaid oedd i ddibynnu ar farchogion arfogedig i ruthro ar y gelyn a rhoi sioc iddynt. Fodd bynnag, yr oedd Swleiman yn arwain byddin amrywiol ac effeithiol, gan gynnwys troedfilwyr gydag arcwebysau (Janisariaid), marchfilwyr ysgeifn (siphai), a gynnau mawr. Er i'r marchfilwyr Hwngaraidd achosi colledion mawr i'r flaengad Otomanaidd, llwyddodd y Janisariaid i wthio'r Hwngariaid yn ôl, a thorrwyd rhengoedd y rheiny gan yr ergydion o ganonau'r Otomaniaid. Wrth i'r Hwngariaid encilio ar faes y gad, cawsant eu gorasgellu a'u hamgylchynu gan y marchfilwyr ysgeifn chwim. Dinistriwyd y fyddin Hwngaraidd, a chafodd y Brenin Lajos ei ladd wedi iddo gwympo o'i geffyl wrth geisio ffoi. Bu farw dim ond 2,000 o luoedd Swleiman, o'i cymharu â 18,000 o filwyr Hwngari.
Wedi'r fuddugoliaeth Otomanaidd, meddiannwyd canolbarth a thiriogaeth ddeheuol Hwngari ganddynt a rhannwyd y deyrnas yn dridarn: Hwngari Frenhinol, a barhaodd yn deyrnas dan reolaeth Tŷ Hapsbwrg; Hwngari Otomanaidd, a fu dan reolaeth yr ymerodraeth o 1541 hyd at ei hildio i'r Hapsbwrgiaid ym 1699; a Thywysogaeth Transylfania, a fyddai'n lled-annibynnol o 1570 nes iddi fynd yn ddarostyngedig i'r Hapsbwrgiaid ym 1711.
Cefndir
Dirywiad Teyrnas Hwngari
Rhyfeloedd Hwngari a'r Ymerodraeth Otomanaidd
Yn sgil cwymp Beograd, cynllun naturiol y Swltan Swleiman oedd i anelu ymestyn ffiniau ei ymerodraeth i Hwngari, ac i elwa ar drafferthion y deyrnas honno a'r rhyfeloedd eraill yn Ewrop a oedd yn amddifadu'r Brenin Lajos rhag cymorth milwrol digonol.[1]
Yr ymgyrch oresgynnol (Ebrill–Awst 1526)
Cychwynnodd yr ymgyrch i oresgyn Hwngari yn niwedd Ebrill 1526, pan ymadawodd y Swltan Swleiman Gaergystennin, gan ddechrau ar ymdaith i'r gorllewin.[1] Ychydig o ddyddiau'n ddiweddarach, croesodd y sipahi—marchfilwyr Anatolaidd—Gulfor Gallipoli, dan arweiniad Behram Pasha, a chyrhaeddasant Plovdiv ym Mwlgaria ar 21 Mai. Oddi yno, symudodd y fyddin ymlaen mewn dwy golofn i Sofia: y Janisariaid a'r magnelau ar yr hen ffordd Rufeinig drwy Borth Trajan, a'r marchfilwyr o Anatolia a Rwmelia drwy Fwlch Izladi. Wedi i'r lluoedd Rwmelaidd fwstro yn Sofia dan arweiniad Ibrahim Pasha, gydag atgyfnerthiadau o Janisariaid, ymadawodd y fyddin honno yn gyntaf i ddiogelu safle i groesi Afon Sava. Er i lawogydd trwm a thir lleidiog arafu'r ymdaith, codwyd pont ar draws yr afon erbyn 21 Mehefin, ac atgyfnerthwyd byddin Ibrahim gan luoedd o Fosnia a marchfilwyr ysgeifn (akinji).[2]
Ar 15 Awst, dechreuodd yr Otomaniaid adeiladu pont nofiol dros Afon Drava, a chyflawnwyd y gwaith erbyn diwedd 19 Awst.[3]
Paratoadau'r Hwngariaid
Dygwyd yn gyson amrywiaeth eang o wybodaeth am weithredoedd milwrol a gwleidyddol yr Otomaniaid i Buda, ac o'r herwydd anodd gan lywodraeth Hwngari oedd cydnabod beth oedd yn wir, a phenderfynu sut i ymateb. Ar gychwyn Ebrill 1526, rhagfynegodd yr Hwngariaid, yn gywir, yr oedd byddin Swleiman ar fin gadael Caergystennin, ond credasant y byddai'r Otomaniaid yn ymosod ar Foldafia a Thransylfania, nid Hwngari. Wrth i Swleiman gychwyn ei ymdaith, derbyniodd Pál Tomori, Archesgob Kalocsa a phencadlywydd Hwngari Isaf, ryw 25,000 o fflorinau oddi ar y Babaeth i dalu ei filwyr, ac aeth o Buda i Pétervárad (bellach Novi Sad, Serbia). Yn nechrau Mai, ymgynullodd nifer o longau, yn ogystal â rhannau o bont i'w hadeiladu, ym mhorthladd Beograd ar gydlif afonydd Donaw a Sava, a chafwyd newyddion sicr yn Buda bod lluoedd Otomanaidd yn symud i'r gorllewin. Fodd bynnag, bu sïon a chamwybodaeth ar led am drafferthion yn yr Ymerodraeth Otomanaidd, gan beri i rai yn Buda anwybyddu'r bygythiad. Ar ddechrau Mehefin, clywyd bod y Swltan a'i fyddin wedi ymadael Edirne ar ei ffordd i Hwngari, ond bu hefyd sôn yng Nghroatia iddo gael ei alw'n ôl i'r dwyrain yn sgil ymosodiad ar ei ymerodraeth gan y Saffafidiaid. Yng nghanol Mehefin, cafwyd newyddion pendant bod y Swltan wedi cyrraedd Plovdiv, a chydnabuwyd gwirionedd yr ymgyrch oresgynnol gan bawb.[4]
Pál Tomori oedd yn bennaf gyfrifol am baratoi yn yr wythnosau olaf i baratoi am y goresgyniad, gyda chymorth János Szápolyai, foifod Transylfania (a gynrychiolwyd gan ei nai). O'r diwedd, yn Awst 1526, galwyd byddin frenhinol o 25,000 o ddynion i wrthsefyll yr Otomaniaid. Trefnwyd hefyd byddin lai o faint gan Szápolyai yn Nhransylfania, ond methodd â chyrraedd y fyddin frenhinol cyn y frwydr. Er gwaethaf yr anhrefn, yr anghytuno, a'r afiechydon a ymledai drwy'r gwersyll milwrol, teimlad hyderus a gorchestaidd oedd gan yr Hwngariaid wrth ddynesu at y frwydr.[5]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Tamás Pálosfalvi, From Nicopolis to Mohács: A History of Ottoman-Hungarian Warfare, 1389–1526 (Leiden: Brill, 2018), tt. 424–5.
- ↑ Pálosfalvi, From Nicopolis to Mohács (2018), t. 425.
- ↑ Pálosfalvi, From Nicopolis to Mohács (2018), t. 430.
- ↑ Pálosfalvi, From Nicopolis to Mohács (2018), t. 426.
- ↑ Miklós Molnár, A Concise History of Hungary (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2001), t. 85.