Aelod uchaf mamolion deudroed yw braich, wedi'i lleoli rhwng yr ysgwydd a'r llaw. Mae'r gair Cymraeg braich yn gytras â bregh, brygh yn y Gernyweg a brec'h yn
| Enghraifft o: | israniad organeb, dosbarth o endidau anatomegol |
|---|---|
| Math | isran o'r corff cardinal, endid anatomegol arbennig |
| Y gwrthwyneb | coes |
| Rhan o | braich |
| Cysylltir gyda | ysgwydd, llaw |
| Yn cynnwys | elin, rhan ucha'r fraich, Penelin, right arm, left arm |
| Dynodwyr | |

Aelod uchaf mamolion deudroed yw braich, wedi'i lleoli rhwng yr ysgwydd a'r llaw. Mae'r gair Cymraeg braich yn gytras â bregh, brygh yn y Gernyweg a brec'h yn y Llydaweg ac mae'r tri gair hyn yn tarddu o'r gair Lladin bracchium.[1] Fe'i cofnodir yn Gymraeg mor bell yn ôl â 1200: '..hyd nes y cyrhaeddodd at hyd braich...'.

Mae'r fraich yn cynnwys 30 asgwrn, cymalau, cyhyrau a gwythiennau gwaed. Mae'r rhan fwyaf o'r cyhyrau'n cael eu defnyddio'n ddyddiol i wneud tasgau dyddiol, arferol.

Yn bôn y fraich ceir asgwrn a elwir yn hwmerws. Mae'n cyfarfod y balfais ychydig yn uwch na chymal yr ysgwydd a chyda'r wlna a'r radiws yn y cymal penelin.
Mae'r hwmerws yn asgwrn cryf iawn a gall godi, ar gyfartaledd, 300 pwys.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.