Botwliaeth

Mae Botwliaeth in salwch prin a allai fod yn angheuol a achosir gan docsin a gynhyrchir gan y bacteriwm Clostridium botulinum. Mae'r afiechyd yn dech

Botwliaeth
Botwliaeth
Enghraifft o:math o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd heintus bacterol cychwynnol, acquired neuromuscular junction disease, infectious disease of the nervous system, geonosis, Afiechyd a gludir gan fwyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolAfiechydon heintiol edit this on wikidata
Dynodwyr
Thesawrws NCIC84599 edit this on wikidata
Freebase/M/0b02k edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF40380 edit this on wikidata
MeSHD001906 edit this on wikidata
UMLS CUIC0006057 edit this on wikidata
QuoraBotulism edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Botwliaeth in salwch prin a allai fod yn angheuol a achosir gan docsin a gynhyrchir gan y bacteriwm Clostridium botulinum. Mae'r afiechyd yn dechrau gyda gwendid, methu gweld yn eglur, teimlo'n flinedig, a chael trafferth siarad. Gall hyn wedyn gael ei ddilyn gan wendid y breichiau, y cyhyrau a'r coesau.  Nid yw'r clefyd fel arfer yn effeithio ar ymwybyddiaeth nac yn achosi twymyn.

Gall Botwliaeth ledu mewn sawl ffordd. Mae'r sborau bacteriol sy'n ei achosi yn gyffredin yn y pridd a'r dŵr. Maent yn cynhyrchu'r tocsin botulinwm pan fyddant yn agored i lefelau ocsigen isel a thymereddau penodol. Mae botwliaeth a gludir gan fwyd yn digwydd pan fydd bwyd sy'n cynnwys y tocsin yn cael ei fwyta. Mae botwliaeth babanod yn digwydd pan fydd y bacteria'n datblygu yn y coluddyn ac yn rhyddhau'r tocsin. Mae hyn fel arfer yn digwydd yn unig mewn plant llai na chwe mis oed, wrth i fecanweithiau diogelu ddatblygu ar ôl y cyfnod hwnnw. Canfyddir botwliaeth clwyf yn fwyaf aml ymhlith y rhai sy'n chwistrellu cyffuriau stryd. Yn y sefyllfa hon, mae sborau'n mynd i mewn i glwyf, ac yn absenoldeb ocsigen, maent ynryddhau'r tocsin. Nid yw'n cael ei basio yn uniongyrchol rhwng pobl. Cadarnheir y diagnosis trwy ddod o hyd i'r tocsin neu'r bacteria yn yr unigolyn dan sylw.

Gellir atal botwliaeth yn bennaf trwy baratoi bwyd mewn ffordd briodol.  Mae'r tocsin, nid yr organeb er hynny, yn cael ei ddinistrio trwy ei wresogi i fwy na 85 °C (185 °F) am fwy na 5 munud. Gall mêl gynnwys yr organeb, ac am y rheswm hynny, ni ddylid bwydo mêl i blant dan 12 mis. Gellir trin botwliaeth gydag antitoxin. Mae'r rhai sy'n colli eu gallu i anadlu ar eu pennau eu hunain, efallai y bydd angen awyru mecanyddol am fisoedd. Gellir defnyddio cyffuriau gwrthfiotig i drin botwliaeth clwyf. Mae marwolaeth yn digwydd mewn 5 i 10% o bobl. Mae botwliaeth hefyd yn effeithio ar lawer o anifeiliaid eraill.[1] Mae'r gair yn dod o'r Lladin, botulus, sy'n golygu selsig.[2] Mae disgrifiadau cynnar o botwliaeth yn dyddio'n ôl i o leiaf 1793 yn yr Almaen.[3]

Cyfeiriadau

  1. "Botulism Fact sheet N°270". World Health Organization. Hydref 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Hydref 2017. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2017.
  2. Lewis, Charlton T.; Short, Charles. "A Latin Dictionary". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-14. Cyrchwyd 2014-06-09.
  3. Truong, Daniel; Dressler, Dirk; Hallett, Mark; Zachary, Christopher (2014). Manual of Botulinum Toxin Therapy (yn Saesneg) (arg. 2). Cambridge University Press. t. 1. ISBN 9781107654334.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.