Boia

Pennaeth o dras Wyddelig yn Nyfed oedd Boia, yn ôl traddodiad, y ceir ei hanes ym Muchedd Dewi, testun canoloesol sy'n honni adrodd hanes bywyd Dewi Sant. Yn o

Boia

Pennaeth o dras Wyddelig yn Nyfed oedd Boia, yn ôl traddodiad, y ceir ei hanes ym Muchedd Dewi, testun canoloesol sy'n honni adrodd hanes bywyd Dewi Sant. Yn ogystal â Buchedd Dewi cyfeirir ato gan Gerallt Gymro. Cyfeirir ato ym Muchedd Teilo ('Hanes Teilo') hefyd, ond heb ei enwi; un o'r Ffichtiaid ydyw yno.[1] Os gwir y chwedl buasai Boia yn byw yn y 6g.

Yr enw

Ceir sawl enghraifft o'r enw personol 'Boia' (neu enwau tebyg; mae 'Bwya' yn amrywiad yn y Gymraeg, er enghraifft). Ceir enghraifft mewn testun o Gernyw sy'n dyddio i'r 10g a cheir un 'Boius' (Gwyddel mae'n debyg) yn ddisygbl i Sant Paul o Leon yng Ngâl. Cymharer hefyd enw'r llwyth Celtaidd y Boii.[2]

Chwedl a hanes

Pen dwyreiniol Clegyr Fwya

Ar ddechrau'r adran amdano yn y Fuchedd mae Boia yn eistedd ar graig uchel ger Tyddewi (Clegyr Fwya, efallai: gweler isod). Mae'r stori sy'n dilyn yn un liwgar. Yn fersiwn Ladin y Fuchedd, sy'n llawnach na'r un Gymraeg, dywedir mai derwydd yw Boia. Mae'n gwrthwynebu Dewi Sant yn ei fwriad i sefydlu clas yng Nglyn Rhosyn (Tyddewi). Mae gwraig ddichellgar Boia yn ei berswadio i erlid Dewi ond mae'r sant yn ei orchyfygu trwy wneud ef a'i ryfelwyr yn ddiymadferth. Pan ddychwelant adref mae'r anifeiliaid i gyd yn farw fel cosb ond mae Dewi yn eu hadfer ar ôl i Foia ymbil arno a rhoi tir Glyn Rhosyn iddo yn dragwyddol. Wedyn mae gwraig Boia yn anfon ei llawforwynion i ddawnsio'n noethlymun o flaen Dewi a'i ddisgyblion i'w temtio ond mae'r sant yn gweddïo trwy'r dydd a'r nos ac mewn canlyniad yn osgoi syrthio i demtasiwn. Ar ddiwedd y chwedl mae Boia yn torri ei lw ac yn bwriadu ymosod ar Ddewi ond yn y nos daw ei elynion a thorri ei ben yn ei gwsg.[3]

Clegyr Fwya

Mae'n debyg fod cof am Boia yn yr enw lle Clegyr Fwya (amrywiad: Clegyr Boia), bryn isel a safle archaeolegol a leolir ger arfordir Sir Benfro i'r gorllewin o Dyddewi. Ystyr 'clegyr' yw 'craig' neu 'garreg' ayyb. Yn Oes Newydd y Cerrig yng Nghymru roedd tylwyth o ffermwyr gwartheg yn byw yno. Cafwyd olion tŷ hirsgwar sylweddol a nifer o ddarnau o grochenwaith neolithig - un o'r canfyddiadau pwysicaf yng Nghymru - sy'n awgrymu cysylltiad ag Iwerddon yn y 3ydd mileniwm CC. Yn ddiweddarach, yn Oes yr Haearn, codwyd cloddiau rhwng y creigiau i greu amddiffynfa.[4]

Cyfeiriadau

  1. D. Simon Evans (gol.), Buched Dewi (Caerdydd, 1959), t. 43.
  2. Buched Dewi, t. 43.
  3. Buched Dewi, tt. 6-9.
  4. Christopher Houlder, Wales: An Archaeological Guide (Faber, 1978), tud. 186.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.