Cacen felys Otomanaidd yw Basbousa (hefyd namoura, revani, hareseh ac enwau eraill) yn draddodiadol a darddoddsy'n dod o Dwrci, er ei bod, bellach, yn boblogai
| Enghraifft o: | saig |
|---|---|
| Math | teisen |
| Deunydd | semolina |
| Dynodwyr | |
Cacen felys Otomanaidd yw Basbousa (hefyd namoura, revani, hareseh ac enwau eraill) yn draddodiadol a darddoddsy'n dod o Dwrci, er ei bod, bellach, yn boblogaidd mewn gwledydd eraill hefyd. Fe'i gwneir o gytew semolina a'i goginio mewn padell,[1] yna'i felysu â Dŵr blodau orennau, dŵr rhosod neu surop syml, a'i dorri'n siapiau diemwnt fel arferl.
Mae i'w gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd a leolwyd ers talwm o fewn yr Ymerodraeth Otomanaidd,[2] ac mae i'w weld yng nghoglau'r Dwyrain Canol, bwyd Gwlad Groeg, bwyd Aserbaijan, bwyd Twrcaidd, a llawer o wledydd eraill.
Mae i'w gael yng ngheginau'r Dwyrain Canol, y Balcanau a Gogledd Affrica o dan amrywiaeth o enwau, gan gynnwys:[3]
Basbousa yw enw'r Aifft ar y pwdin hwn, ac fe'i gelwir yr un peth yng Ngogledd Affrica. Fe'i gelwir yn aml yn "hareesa" yn y Lefant, a hefyd yn Alexandria, er mewn rhannau eraill o'r Aifft mae hareesa yn fath gwahanol o bwdin. Saws coch sbeislyd yw "haressa" yng Ngogledd Affrica! Mae Basbousa yn bwdin poblogaidd ymhlith yr holl Eifftiaid; mae'n brif ddysgl draddodiadol yn yr Aifft yn Eid a Ramadan, ac i Gristnogion pan maen nhw'n ymprydio, fel y Grawys a'r Nadolig, ag y gellir ei ddarparu ar gyfer figaniaid.

Mae Pastūsha (neu pastūçha) yn amrywiad o basbousa a darddodd yn Kuwait yn y 2010au. Fel basbousa, mae'n cael ei wneud o semolina wedi'i socian mewn surop melys. Fe'i nodweddir gan ychwanegu pistachios wedi'u malu'n fân a dŵr blodau orennau.
Basbousa bil ashta - amrywiad o'r Lefant o basbousa wedi'i lenwi â gwely o hufen ashta yn y canol.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.