Bacchai

Trasiedi Roegaidd hynafol gan Ewripides yw Bacchai (Hen Roeg: Βάκχαι), a adwaenir hefyd fel Y Bacchai neu Y Bacchantes. Cyfansoddwyd y ddrama yn ystod ei

Bacchai
Bacchai
Enghraifft o:gwaith dramatig Edit this on Wikidata
AwdurEwripides Edit this on Wikidata
IaithHen Roeg Edit this on Wikidata
Genretrasiedi Roegaidd Edit this on Wikidata
CymeriadauDionysos, Penthews, Agawe, maenad, Teiresias, Cadmos Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afTheatr Dionysos Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af405 CC Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithThebai Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Trasiedi Roegaidd hynafol gan Ewripides yw Bacchai (Hen Roeg: Βάκχαι), a adwaenir hefyd fel Y Bacchai neu Y Bacchantes. Cyfansoddwyd y ddrama yn ystod ei blynyddoedd olaf Ewripides ym Macedonia, yn llys y brenin Archelaos I. Llwyfannwyd y drasiedi am y tro cyntaf yn Theatr Dionysos yn 405 CC, ar ôl marwolaeth y dramodydd, fel rhan o detraleg oedd hefyd yn cynnwys Iphigeneia yn Aulis ac Alcmaeon yng Nghorinth, a tybir bod mab neu nai Ewripides wedi'i gyfarwyddo.[1] Enillodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth gŵyl Dinas Dionysia.

Gareth Miles fu'n gyfrifol am "gyfaddasu" y ddrama i'r Gymraeg ym 1991 ar gyfer Dalier Sylw, gan ddefnyddio'r teitl Bacchai.[2] Cyhoeddwyd ei gyfaddasiad gan Dalier Sylw a CAA yn yr un flwyddyn.[2] Seiliwyd y cyfaddasiad ar gyfieithiad Ffrangeg Henri Grégoire a Jules Meunier, o'r ddrama wreiddiol gan Ewripides, wedi'i greu gan ddefnyddio ieithweddau Cymraeg hynafol.

Mae'r drasiedi wedi'i ganoli ar fyth Groegaidd y brenin Penthews o Thebai a'i fam Agawe, a gafodd eu cosbi gan y duw Dionysos (sy'n gefnder i Penthews) am wrthod ei gwlt. Mae'r ddrama'n agor gyda Dionysos yn cyhoeddi ei fod wedi cyrraedd Thebai gyda'i gefnogwyr i ddial am yr enllib, a ailadroddwyd gan ei fodrybedd, nad mab Zews mohono. Wedi'i guddio fel dyn sanctaidd o dramor, mae'r duw yn bwriadu cyflwyno defodau Dionysaidd i'r ddinas, ond mae'r Thebiaid yn gwrthod ei dduwdod ac mae'r brenin Penthews yn gorchymyn ei atal a'i arestio.

Gyrra Dionysos Penthews yn wallgof, gan ei ddenu i'r mynyddoedd. Mae'r ddrama'n gorffen gyda menywod Thebai, wedi'u cyflyru gan gynddaredd orgiastig Dionysos, yn rhwygo Penthews yn ddarnau, tra bod ei fam Agawe yn cludo ei ben ar bolyn i'w thad Cadmos.

Cymeriadau

Cymeriad Disgrifiad
Dionysios duw'r gwin
Penthews arglwydd Thebai
Cadmos sylfaenydd Dinas Thebai a thaid Penthews
Teiresias proffwyd dall, gweledydd
Agawe mam Penthews a merch Cadmos
Y Negesydd Cyntaf
Yr Ail Negesydd
Y Bacchai

Cynyrchiadau nodedig

Clawr cyfaddasiad Gareth Miles

Llwyfanwyd cyfaddasiad Gareth Miles am y tro cyntaf gan Dalier Sylw ym 1991. Cyfarwyddwr y cynhyrchiad oedd Ceri Sherlock; cynllunydd Eryl Ellis; cast:[3]

Cyfeiriadau

  1. Rehm (1992, 23).
  2. 2.0 2.1 Miles, Gareth (1991). Bacchai. Caerdydd: Dalier Sylw / CAA.
  3. "Y Bacchai – archif sioeau Dalier Sylw". www.users.globalnet.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-25.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.