Atomfa ydy'r enw sy'n cael ei roi ar yr adeilad lle holltir yr atom (fel arfer wraniwm-235 neu plwtoniwm-239). Ceir adweithydd niwclear ym mhob atomfa, wedi'i amgylchynnu gan ddŵr sy'n cael ei gynhesu gan adwaith cadwyn rheoledig a'r stêm, yn ei dro, yn gyrru tyrbeins.
Agorwyd atomfa cyntaf y byd sef Obninsk yn yr Undeb Sofietaidd Atomfa yn 1954 fel arbrawf, ac ar y cychwyn cynhyrchodd tua 5 MW o drydan y flwyddyn. Y cyntaf i wneud hynny'n fasnachol oedd Calder Hall, Windscale, Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yn 1956. Fe'i hagorwyd ar 27 Awst 1956 gan greu 50 MWe o drydan ar y cychwyn ac yna 200 MW. Defnyddiai bedwar adweithydd Magnox 50 MWe yr un. Flwyddyn yn ddiweddarach agorwyd yr atomfa gyntaf yn America sef Adweithydd Shippingport ym Mhensylfania yn Rhagfyr 1957).
Cymru
Yng Nghymru ceir dwy atomfa: Wylfa (Môn) a geuodd yn 2010 a Thrawsfynydd a ddechreuodd ar y gwaith dadgomisiynu yn 1991.
Dechreuwyd adeiladu Atomfa Wylfa yn 1963 a dechreuodd gynhyrchud trydan yn 1971 ac roedd yno ddwy adweithydd Magnox (490 MW). Dyma'r mwyaf a'r olaf o'i fath yng ngwledydd Prydain. Bydd yn dod i ben ar ddiwedd 2010.
Ceir atomfa hefyd yn Nhrawsfynydd, ond ers 1991 mae wedi dechrau cael ei ddadgomisiynu. Dechreuwyd ar y gwaith o'i adeiladu ym Mawrth 1965 a dechreuodd ar gynhyrchu trydan yn Hydref 1968. Roedd ganddo ddwy adweithydd Magnox ac roedd yn cynhyrchu 470MW o drydan.
Damweiniau
-
Dyddiad
Lleoliad
Disgrifiad
Cost (mewn miliynau 2006 $)
22 Chwefror 1977
Jasłovske Bohunice, y Wladwriaeth Czech
Yr adwaith yn erydu'n ddifrifol gan ryddhau ymbelydredd oddi fewn i adeiladau'r atomfa gan orfodi ei dadgomisiynnu
US$1,700
28 Mawrth 1979
Middletown, Pennsylvania, UDA
Yr hylif oeri yn gollwng a'r adweithydd yn creu toddiad niwclear (Three Mile Island)
US$2,400
9 Mawrth 1985
Athens, Alabama, UDA
Mesuryddion yn torri i lawr wrth danio gan beri i bob un o'r tri adweithydd i gael eu gohirio 'Browns Ferry Nuclear Power Plant'
US$1,830
11 Ebrill 1986
Plymouth, Massachusetts, UDA
Problemau gyda'r offer gan orfodi cau'r atomfa 'Pilgrim Nuclear Power Plant' Boston Edison's
US$1,001
26 Ebrill 1986
Kiev, Ukraine
Ffrwydriad stem a hunan-losgi ('meltdown') gan achosi 4,056 marwolaeth (gweler Trychineb Chernobyl) a symud 300,000 o bobl o Kiev; lledaenodd llawer o'r deunydd ymbelydrol ledled Ewrop gan y gwynt )