Lleuad Planed Seren Galaeth Bydysawd
| Enghraifft o: | branch of astronomy, cangen o ffiseg, disgyblaeth academaidd |
|---|---|
| Math | seryddiaeth, ffiseg, cosmic physics |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01_j8n |
| Thesawrws y BNCF | 19328 |
| Quora | Astrophysics |
| Seryddiaeth | |
|
Lleuad | |
Astroffiseg yw'r gangen o seryddiaeth sy'n delio â ffiseg a chemeg y bydysawd h.y. gwneuthuriad ffisegol y planedau, y sêr a gwrthrychau eraill yn hytrach na'u lleoliad neu symudiad drwy'r gofod. Mae hyn yn cynnwys priodweddau megis dwysedd, tymheredd, cyfansoddion cemegol a goleuedd o wrthrychau wybrennol e.e. galaethau, sêr, planedau, planedau allheulol, a'r cyfrwng rhyngserol, yn ogystal a'i rhyngweithiadau.[1][2]

Astudir pelydriad (radiation) y gwrthrychau hyn; gwneir hynny ar draws y sbectrwm elecromagnetig, gyda nifer o briodweddau gan gynnwys disgleirdeb (luminosity), dwysedd, tymheredd a chyfansoddiadau cemegol. Gan fod astroffiseg yn faes mor eang astudir ystod eang o feysydd gan gynnwys mecaneg, electromagneteg, mecaneg ystadegol, thermodeinameg, mecaneg cwantwm, Damcaniaeth perthnasedd, ffiseg niwclear a gronynnol a ffiseg atomig, moleciwlar ac optegol.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.