Areoleg (Groeg: Ἂρης neu Arēs yw'r duw Mawrth a -λογία neu -logia yw "astudiaeth") yw'r astudiaeth o gyfansoddiad, strwythur, nodweddau materol, hane
| Enghraifft o: | disgyblaeth academaidd |
|---|---|
| Math | planetary geology, areology |
| Rhan o | gwyddoniaeth y planedau |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/04y_s4 |

Areoleg (Groeg: Ἂρης neu Arēs yw'r duw Mawrth a -λογία neu -logia yw "astudiaeth") yw'r astudiaeth o gyfansoddiad, strwythur, nodweddau materol, hanes a'r prosesau sydd yn ffurfio'r blaned Mawrth
Credir mai o fasalt yn bennaf y cyfansoddwyd arwyneb Mawrth.
Ymhlith yr elfennau sydd yn bresennol ar Fawrth ceir ocsigen (O), haearn (Fe), a silicon (Si), yn ogystal â magnesiwm (Mg), alwminiwm (Al), sylffwr (S), calsiwm (Ca) a thitaniwm (Ti). Canlyniad ocsideiddio yr haearn ar wyneb y blaned yw cochni nodweddiadol Mawrth yn bennaf. Yn ddiweddar darganfyddwyd bod pridd Mawrth yn cynnwys iâ dŵr wedi ei ddal o fewn mwnau, yn ogystal â photasiwm (K), clorin (Cl) a sodiwm (Na).
O ran mwynoleg heddiw mae gwyddonwyr yn hyderus am ba fwynau sydd yn bodoli ar y Blaned Goch. Ymhlith y mwynau hyn ceir olifin, pyrocsen, ffelsbar, hematit, clai, goethit, jarosit, sylffadau haearn, a silica opalaidd.
Er nad oes maes magnetig byd-eang gan y blaned heddiw, mae mesuriadau'n awgrymu bod rhannau o grawen y blaned wedi cael eu magneteiddio ac yn meddu ar feysydd magnetig.
O ran disgyrchiant mae radiws Mawrth tua hanner hyd radiws y Ddaear, a dim ond 10% o grynswth y Ddaear sydd gan y blaned, sydd yn gadael Mawrth gyda disgyrchiant o 0.376 g, neu 38% o ddisgyrchiant y Ddaear.
O ran craidd, crawen a mantell y blaned, mae modelau cyfredol o graidd y blaned yn awgrymu rhanbath gyda radiws o ryw 1,480 km wedi ei gyfansoddi'n bennaf o haearn a 15-17% sylffwr. Mae'r craidd sylffad haearn hwn naill ai yn rhannol ynteu yn gyfan gwbl hylifol, gyda dwywaith y crynodiad o elfennau ysgafn ag sydd yn bodoli yng nghraidd y Ddaear.
Mae'r craidd wedi ei amgylchu gan fantell o silicad. Mae trwch y grawen ar gyfartaledd yn 50 km. Mewwn thai ardaloedd gallai fod dros 100 km
Yn sgil mesuriadau gan y Mars Global Surveyor ym 1999, y mae gwyddonwyr yn credu y bu actifedd dectonig ar Fawrth yn ystod ei 500 miliwn o flynyddoedd cyntaf, gydag Iseldiroedd y Gogledd yn hafal i fasn cefnforol ar y Ddaear.
Mae astudiaethau o ddwyseddau craterau gwrthdaro ar wyneb Mawrth yn ein galluogi i adnabod tri epoc yn hanes ddaearegol y blaned, gan fod arwynebau hynaf y blaned yn meddu ar fwy o graterau gwrthdaro nag arwynebau iau.
Enwir yr epocau hyn ar ôl lleoliadau ar Fawrth sydd yn perthyn i'r cyfnodau dan sylw.
Yn sgil mesuriadau diweddar gan y Sbectromedr Mapio Mwnyddol OMEGA ar fwrdd y Mars Express cynigiwyd graddfa amser amgen gan brif ymchwilydd y sbectromedr OMEGA, gydag epocau wedi eu seilio ar gydberthyniad rhwng mwynoleg a daeareg y blaned.

Ni all dŵr fodoli fel hylif ar wyneb Mawrth heddiw oherwydd pwysau atmosfferig isel y blaned, ac eithrio am gyfnodau byr yn ei llefydd isaf. Yn ddiweddar daethpwyd o hyd at dystiolaeth i gefnogi'r cred poblogaidd bod dŵr wedi llifo ar wyneb y blaned yn y gorffennol, gan gynnwys darganfyddiad dyddodion mewn ceunentydd a phresenoldeb mwynau na allasai ffurfio heb ddŵr.
Mae pegynau Mawrth yn cynnwys iâ dŵr yn ogystal â iâ deuocsid carbon. Amcangyfrir bod digon o iâ dŵr ym mhegwn y de i orchuddio'r blaned gyfan dan 11 medr o ddŵr petai e'n gallu bodoli yn ei ffurf hylifol.
Mae iâ dŵr hefyd wedi cael ei ddarganfod mewn llefydd eraill ar Fawrth, gan gynnwys ar y cyhydedd, mewn craterau a cheunentydd.
Mae atmosffer Mawrth yn denau, ac mae'r pwysau atmosfferig ar wyneb y blaned yn amrywio o ryw 30 Pa (0.03 kPa) ar ben Olympus Mons i dros 1155 Pa (1.155 kPa) ar waelod Hellas Planitia, a chyda chyfartaledd o ryw 600 Pa (0.6 kPa, neu 6 milibar, neu 0.087 psi) o gymharu â 101.3 kPa ar y Ddaear, a chrynswth o ryw 25 teradunnell o gymharu â 5148 teradunnell y Ddaear. Serch hynny, mae gan atmosffer Mawrth uchder o ryw 11 km o gymharu â 7 km atmosffer y Ddaear. Mae atmosffer Mawrth yn 95% carbon deuocsid, 3% nitrogen ac 1.6% argon gydag olion ocsigen, dŵr a methan. Mae'r atmosffer yn llawn llwch, sy'n rhoi iddo ei liw llwydfelyn.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.