Ardal an-fetropolitan yng Nghaint , De-ddwyrain Lloegr , yw Ardal Folkestone a Hythe (Saesneg: Folkestone and Hythe District ; Ardal Shepway gynt).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 357 km² , gyda 112,578 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[ 1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Ashford i'r gorllewin, Dinas Caergaint ac Ardal Dover i'r gogledd, y Môr Udd i'r dwyrain, a Dwyrain Sussex i'r de.
Ardal Folkestone a Hythe yng Nghaint
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 , ar 1 Ebrill 1974 , o dan yr enw "Ardal Shepway". Fe'i hailenwyd yn "Folkestone a Hythe" ym mis Ebrill 2018.
Rhennir yr ardal yn 30 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Folkestone . Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Hythe , Hawkinge , Lydd a New Romney .
Gweler hefyd
Cyfeiriadau