Cainc neu gulfor yw'r Môr Udd (Ffrangeg: La Manche; Saesneg: English Channel; Cernyweg: Mor Bretannek; Llydaweg: Mor Breizh) o Fôr Iwerydd; dyma'r môr rhwng Lloegr a Ffrainc. Mae'r môr yn cysylltu'r Môr Iwerydd yn y gorllewin â Môr y Gogledd yn y dwyrain. Mae'n bosib y daw'r enw o'r gair 'rhudd' (coch) neu 'rydd' (rhyddid), a defnyddid y gair 'y Môr Rudd' ers talwm. Fodd bynnag mae'r sillafiad a ddefnyddir heddiw (Môr Udd) wedi'i gofnodi yn y 13g, yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru pan gofnodwyd yn Llyfr Gwyn Rhydderch: "o Fôr Udd (Mor Rudd) i Fôr Iwerddon".[1]
Cyfeiriadau