Ardal an-fetropolitan yn Norfolk, Dwyrain Lloegr, yw Ardal De Norfolk.
Mae gan yr ardal arwynebedd o 908 km², gyda 138,017 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio Ardal Breckland i'r gorllewin, Ardal Broadland, Dinas Norwich a Bwrdeistref Great Yarmouth i'r gogledd, a Suffolk i'r de.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir Ardal De Norfolk yn 119 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn Long Stratton. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Diss, Hingham, Loddon a Wymondham.
Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!